Y canwr R Kelly'n euog o dwyll busnes a masnachu pobl ar gyfer rhyw
Mae'r cerddor R Kelly'n euog o naw cyhuddiad o dwyll busnes a masnachu pobl ar gyfer rhyw mewn achos llys yn ei erbyn yn Efrog Newydd.
Roedd y canwr, sy'n 54 oed, wedi osgoi cyfrifoldeb cyfreithiol ers degawdau, yn ôl The Guardian.
Yn dilyn gwrando ar chwe wythnos o dystiolaeth, fe ddechreuodd y rheithgor ddyfarnu ar y cyhyddiadau brynhawn dydd Gwener.
Dywedodd sawl tyst yn yr achos fod Kelly wedi eu gorfodi i ufuddhau i'w orchmynion creulon am dros ddau ddegawd, ac mae cwestiynau wedi codi am pam ei fod wedi llwyddo i osgoi cyfrifoldeb am ei weithredoedd mor hir.
Fe all R Kelly wynebu 20 mlynedd o garchar ac mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ym mis Mai 2022.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Andrew Steinmetz