Newyddion S4C

Cip olwg ar benawdau'r bore

23/09/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma olwg ar brif benawdau'r bore ar ein gwasanaeth ar fore Iau, 23 Medi.

Angen ‘mwy o ymwybyddiaeth’ am ganser y fron ymysg yr ifanc

Mae dynes gafodd ganser y fron yn 29 oed eisiau codi ymwybyddiaeth o'r salwch ymysg pobl ifanc. Mae Anest Eifion eisiau i bobl ifanc fod yn ymwybodol o’r risg a’r angen i hunan archwilio yn rheolaidd.

Boris Johnson: Hen bryd i ddynoliaeth 'dyfu fyny' a delio gyda newid hinsawdd – The Guardian

Mae Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson wedi dweud wrth y Cenhedloedd Unedig bod yn rhaid i Cop26 fod yn "drobwynt i ddynoliaeth" 40 diwrnod cyn yr uwchgynhadledd hinsawdd y Glasgow.

Sabina Nessa: Athrawes wedi ei llofruddio yn ystod taith gerdded fyr – Sky News

Mae’r heddlu yn credu bod yr athrawes Sabina Nessa wedi’i llofruddio yn ystod taith gerdded pum munud i gwrdd â ffrind mewn tafarn. Cafwyd hyd i gorff y ferch 28 oed mewn parc yn ne-ddwyrain Llundain am tua 19:30 nos Sadwrn diwethaf.

Pryder ar ôl i ddynes 94 oed aros 13 awr am ambiwlans ar ôl torri ei chlun

Dynes 94 oes wedi aros 13 awr am ambiwlans wedi iddi syrthio a thorri ei chlun. Mae’r teulu dal i ddiswgyl esboniad gan y Gwasanaeth Ambiwlans 10 wythnos yn ddiweddarach.

Perfformwraig o Gaerdydd yn ‘torri tir newydd’ ar raglen RuPaul’s Drag Race UK

Mae perfformwraig o Gaerdydd wedi dweud ei bod yn "torri tir newydd" fel y frenhines drag benywaidd gyntaf i ymddangos ar raglen RuPaul's Drag Race UK. Victoria Scone yw'r fenyw gydryweddol (cisgender) gyntaf i gymryd rhan yn y gystadleuaeth fyd-enwog.

‘Angen parhaus i atal haint Covid-19 mewn ysbytai,' medd adroddiad – Golwg 360

Mae adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dweud bod angen parhau i gynnal trefniadau sy'n atal a rheoli haint Covid-19 mewn ysbytai er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo’r feirws. 

Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.