Newyddion S4C

Pryder ar ôl i ddynes 94 oed aros 13 awr am ambiwlans ar ôl torri ei chlun

Newyddion S4C 23/09/2021

Pryder ar ôl i ddynes 94 oed aros 13 awr am ambiwlans ar ôl torri ei chlun

Ym mis Gorffennaf, bu’n rhaid i Doris Roberts, 94, ddisgwyl am 13 awr am ambiwlans wedi iddi syrthio yn gynnar yn y bore a thorri ei chlun.

Ar y pryd, roedd hi yng nghartref ei merch, Ann Williams, yn Henllan ger Dinbych.

Cafodd Ann, 72, wybod i gychwyn y byddai’n rhaid disgwyl tua 6 awr, ond bod achos Mrs Roberts yn “flaenoriaeth”.

Ar hynny, penderfynodd Ann a’i gŵr, Geraint, godi Doris yn ofalus oddi ar y llawr a’i gosod ar wely fel ei bod yn fwy cyfforddus.

Yn ôl Geraint, 73, roedd diffyg gwybodaeth yn ystod y dydd yn rhwystredig.

“‘San nhw’n medru dweud wrth bobl be’ maen nhw’n debyg o’i gael ac o lle mae’r ambiwlans yn dod, a be’ sy’n digwydd wedyn,” meddai.

Tua 16:00, daeth ymatebwr i’r tŷ i edrych ar anaf Mrs Roberts, ond bu’n rhaid aros tan 20:00 am yr ambiwlans.

Er eu bod yn credu iddi gael gofal “arbennig” gan y staff meddygol, mae’r teulu wedi ysgrifennu at y Gwasanaeth Ambiwlans i ofyn am esboniad.

“Sut maen nhw’n gallu gadael dynes oedd bron yn 94 yn disgwyl cyhyd am ambiwlans?” meddai Ann.

“Beth wnaeth fy synnu i oedd bod ‘na ddim ambwlansys [yn aros] yn Ysbyty Glan Clwyd pan gyrrhaeddais i yno - ble roedden nhw i gyd?”

“Does gen i ddim cwyn efo’r staff,” meddai Geraint.

“Efallai ei bod hi’n amser cael mwy ohonyn nhw fel bod pobl yn cael eu trin ynghynt.”

Tra'n ymddiheuro am brofiad Mrs Roberts, mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yn dweud eu bod yn y broses nawr o drefnu cyfarfod gyda'r teulu.

Ond, yn y cyfamser, mae'r hanes yn rhoi syniad o effaith y pwysau sydd ar y gwasanaeth ar hyn o bryd.

Ar ôl cael cymorth gan y fyddin ddwywaith yn barod ers dechrau'r pandemig, mae cais pellach wedi ei gyflwyno am gefnogaeth filwrol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.