Newyddion S4C

Angen ‘mwy o ymwybyddiaeth’ am ganser y fron ymysg yr ifanc

23/09/2021

Angen ‘mwy o ymwybyddiaeth’ am ganser y fron ymysg yr ifanc

Mae dynes gafodd ganser y fron yn 29 oed eisiau codi ymwybyddiaeth o'r salwch ymysg pobl ifanc.

Cafodd Anest Eifion o Benisarwaun ddiagnosis ym mis Hydref 2018, ar ôl darganfod lwmp ar ei bron.

Yn dilyn chwe rownd o gemotherapi, llawdriniaeth a 20 rownd o radiotherapi roedd hi’n glir o ganser.

Ar ôl clywed am farwolaeth diweddar y gantores bop Sarah Harding o ganser y fron yn 39 oed, ac yn dilyn ei phrofiad ei hun, mae Anest Eifion eisiau i bobl ifanc fod yn ymwybodol o’r risg a’r angen i hunan archwilio yn rheolaidd.

Image
Llun teulu
Anest Eifion gyda’i dwy chwaer, a’i nithoedd.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Os ydw i wedi’i gael o yn 29, mae ‘na gymaint o ferched eraill sydd hefyd yn mynd i gael o ella, yr un oed, os nad yn ifancach.

“Mae’n ddigon hawdd codi pres, ond dydi codi’r ymwybyddiaeth yna ddim mor hawdd, o ran os dydi pobl ddim yn checkio eu hunain yn aml, ac os oes ’na rwbath ddim yn teimlo yn iawn, eu bod nhw yn mynd i weld doctor yn syth.”

Mae ymchwil ddiweddar yn dangos bod tua 5,000 o ferched o dan 45 oed yn cael diagnosis o’r salwch bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig, er ei bod yn fwy cyffredin ymysg merched hŷn.

Yn y DU, mae merched 50 oed i 71 oed yn cael gwahoddiad am fammogram bob tair blynedd fel rhan o raglen sgrinio'r fron.

Mae Anest Eifion yn credu y dylai’r trefniant mammogram presennol gael ei addasu.

“Ar hyn o bryd yr oed sy’n sefyll ydy 50, mae’n brawf bod pobl fengach na 50 yn cael diagnosis o ganser y fron, a dynion hefyd, mae o yn rhywbeth dwi’n meddwl sydd angen cael ei edrych arno.

“Mae o yn anodd o ran capacity a phres, ond hefyd os oes ’na allu i gael drop-in centers neu rwbath felly i’r rheini sydd yn poeni, neu efo hanes teulu o ganser y fron yn bennaf?

“Yn sicr, rhaid ystyried rhywbeth, a gwneud rhywbeth am y peth.”

Image
S4C
Anest Eifion yn cael triniaeth.

Yn ôl elusen ‘CopaFeel!’, gall unrhyw un gael eu heffeithio gan ganser y fron, ond nid yw chwarter pobl ifanc y DU yn sylweddoli eu bod mewn risg.

Mae Anest Eifion yn galw am system sy’n addysgu pobl ifanc ar sut i hunan archwilio, pa amser a phryd i fynd i weld doctor.

“’Does ’na byth neb yn deutha chdi be’ i edrych allan amdano fo yn ifanc nagoes, ti’n cael y petha’ ’ma pam ti’n mynd yn hŷn.

“Yn sicr dylsa fo fod yn rwbath dylsa’r ysgolion fod yn edrych arno fo, o ran ychwanegu sut i hunan archwilio yn eu gwersi.”

‘Hunan archwilio yn rheolaidd’

Yn ôl y meddyg teulu, Dr Llinos Roberts, dylai merched a dynion hunan archwilio eu hunain yn rheolaidd.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Yn gyffredinol, be ’dan ni’n awgrymu ydi bod pobl unwaith y mis, yr un adeg o’r mis yn hunan archwilio, oherwydd ’dan ni gyd yn wahanol.

“Mae’n bwysig bod ni’n dod i ddeall ein cyrff ni, a gwybod be’ sy’n normal i ni. Wrth hunan archwilio yn rheolaidd mi ddown ni i ddarganfod unrhyw newidiadau bach yn ein cyrff ni yn fuan.

“’Dan ni’n argymell bod pobl yn hunan archwilio ar yr un amser o’r mis, i fenywod yr amser gorau fydda ar ôl y mislif. Ond i fenywod sydd wedi pasio’r menopause neu ddynion, dylen nhw archwilio ar yr un amser o’r mis, pa bynnag amser maen nhw’n dewis.”

‘Fy stori i wedi gallu bod yn wahanol' 

Mae Anest Eifion yn gobeithio y bydd rhannu ei phrofiad yn arwain at fwy o bobl yn ymwybodol o risg canser y fron.

“Bysa'n stori i wedi gallu bod gymaint gwahanol os fyswn ni ddim wedi mynd at y doctor pam nesi, ac o ran y triniaeth oni wedi'i gael a’r outcome wedyn.

“O ran annogaeth, dwi'n meddwl, hyd yn oed y peth lleaif sydd ddim cweit yn teimlo'n iawn, dwi'n meddwl bod rhaid mynd i weld y doctor.

“Mae bod yn ymwybodol o ganser y fron a hunan archwilio, yn rhywbeth mae’n rhaid i bawb wneud gan gynnwys pobl ifanc, a pheidio bod ofn mynd at y doctor, achos does 'na ddim byd i fod yn embarrassed o.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.