Perfformwraig o Gaerdydd yn ‘torri tir newydd’ ar raglen RuPaul’s Drag Race UK
Perfformwraig o Gaerdydd yn ‘torri tir newydd’ ar raglen RuPaul’s Drag Race UK
Mae perfformwraig o Gaerdydd wedi dweud ei bod yn "torri tir newydd" fel y frenhines drag benywaidd gyntaf i ymddangos ar raglen RuPaul's Drag Race UK.
Victoria Scone yw'r fenyw gydryweddol (cisgender) gyntaf i gymryd rhan yn y gystadleuaeth fyd-enwog.
Bydd y gyfres sy’n gweld 12 brenhines drag ledled Prydain yn cystadlu yn erbyn ei gilydd drwy ganu, dawnsio a chomedi, yn dechrau’r wythnos hon.
Mae Ms Scone - neu Emily Diapre yn benderfynol o ennill y goron.
‘Teimlo’n eithriadol o lwcus’
“Ychydig flynyddoedd yn ôl, doeddwn i ddim yn meddwl byddai gwneud drag wedi bod yn bosib,” dywedodd wrth Newyddion S4C.
“Ond dwi yma! A dwi’n teimlo’n eithriadol o lwcus a ffodus.”
Gyda chefndir mewn perfformio, dywedodd Victoria, sydd yn 27 oed, nad oedd y daith i fyd drag yn un hawdd.
“Roeddwn i wedi derbyn hyfforddiant mewn theatr gerdd ac wedi bod yn dawnsio ers o’n ni’n dair oed, ond doeddwn ni ddim yn llwyddiannus iawn yn y meysydd yna yn anffodus,” eglurodd.
“Nes i gychwyn cystadlu mewn pasiantau harddwch ar gyfer menywod maint-plws, ond oeddwn ni wastad yn chwilio am rywbeth fyddai’n cyfuno popeth roeddwn ni’n caru gwneud – y canu, y perfformio, y colur.
“Ers o’n ni’n fach, roedd gennai ddiddordeb mawr mewn drag o Brydain yn enwedig mewn pantomeim. Dwi’n cofio o’n ni wastad yn uniaethu gyda’r Fonesig neu’r Frenhines yn hytrach na’r Dywysoges neu Cinderella.
“Dyna pryd neshi benderfynu gwneud drag a dyna sut ddaeth pobol i fy adnabod i fel Victoria Scone.”
Yn draddodiadol, mae drag yn cael ei gysylltu gyda dynion yn gwisgo fel menywod, ond dros y blynyddoedd diwethaf mae cynnydd yn nifer y perfformwyr benywaidd, anneuaidd a thrawsryweddol sy’n cymryd rhan.
Dywedodd Ms Scone bod y gefnogaeth yng Nghaerdydd wedi ei helpu i ddatblygu fel brenhines drag.
‘Ddim lle ydw i nawr oni bai amdani’
“Ar y dechrau, roeddwn ni’n dweud wrth berchnogion y clybiau nos eu bod nhw am fy nghyflogi i p'un os ydyn nhw eisiau gwneud hynny ai peidio,” meddai.
“Ond yn ffodus i mi wnaeth y sîn yng Nghaerdydd fy nghroesawu i o’r dechrau.
“Fel menyw cydryweddol, mae o’n anodd cael cyfleoedd, felly oeddwn ni’n lwcus iawn o’r gefnogaeth ges i yng Nghaerdydd.
“Fyddwn i ddim lle ydw i nawr oni bai amdani.”
‘Dwi’n creu hanes’
Fe fydd Victoria Scone yn cystadlu ynghyd ag 11 o breninesau drag yn y rhaglen sy’n dechrau nos Iau ar BBC Three.
Yn dilyn cyhoeddiad y drydydd gyfres, mae'r frenhines drag wedi derbyn ymateb "cadarnhaol" i'r newyddion mai hi fydd y fenyw cydryweddol gyntaf i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
“Mae’r ymateb wedi bod yn bositif iawn, yn fwy positif nag oeddwn ni’n disgwyl i ddweud y gwir oherwydd roeddwn ni’n paratoi fy hun am y gwaethaf,” meddai.
“Yn amlwg, mae cystadlu fel menyw cydryweddol mewn cystadleuaeth drag wastad yn mynd i fod yn ddadleuol - dwi’n creu hanes a dwi’n torri tir newydd.
“Ond mae ‘na gymaint ohoni ni allan yna, dwi’n gobeithio mai nid fi fydd yr un olaf i ymddangos ar y rhaglen.”
Prif lun: RuPaul’s Drag Race UK, BBC Three