Newyddion S4C

Dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio athrawes

Sky News 23/09/2021
S4C

Mae dyn 38 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio'r athrawes Sabina Nessa.

Yn ôl Heddlu'r Met, dyma'r ail berson i gael ei arestio mewn cysylltiad â'i marwolaeth.

Cafwyd hyd i gorff y ferch 28 oed mewn parc yn ne-ddwyrain Llundain am tua 19:30 nos Sadwrn diwethaf, yn ôl Sky News.

Yn gynharach brynhawn Iau, dywedodd yr heddlu bod lle i gredu bod yr athrawes wedi’i llofruddio 'gan ddieithryn' wrth gerdded ar daith pum munud i gwrdd â ffrind mewn tafarn.

Darllenwch y stori’n llawn yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.