Boris Johnson: Hen bryd i ddynoliaeth 'dyfu fyny' a delio gyda newid hinsawdd

Mae Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson wedi dweud wrth y Cenhedloedd Unedig bod yn rhaid i Cop26 fod yn "drobwynt i ddynoliaeth" 40 diwrnod cyn yr uwchgynhadledd hinsawdd y Glasgow.
Wrth annerch cynulliad cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd nos Fercher, rhybuddiodd Johnson ei bod yn bryd i ddynoliaeth “dyfu i fyny” a gwrando ar rybuddion gwyddonwyr am y broblem newid hinsawdd.
Tynnodd sylw at ddatblygiadau technolegol sydd wedi gwneud ynni gwyrdd yn rhatach ac yn fwy hygyrch, a rhybuddiodd os na fydd newidiadau yn cael ei gwneud ar frys “byddwn wedi gwneud y blaned hardd hon yn anaddas i fyw ynddi i bob pwrpas - nid yn unig i ni ond i lawer o rywogaethau eraill".
Mae'r Deyrnas Unedig yn annog mwy o wledydd i ddod ymlaen ag ariannu'r cynllun i fynd i afael ar newid hinsawdd, er mwyn helpu i gyrraedd y targed o $100bn a osodwyd fwy na degawd yn ôl.
Darllenwch y stori’n llawn yma.