Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma ein prif straeon ar fore dydd Sul, 12 Medi.
Teithwyr o Gymru i gael defnyddio profion PCR preifat
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd teithwyr o Gymru yn cael defnyddio profion PCR gan gwmnïau preifat wrth iddynt ddychwelyd o wledydd tramor. Ar hyn o bryd, mae pobl sy’n byw yng Nghymru yn gorfod prynu prawf gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), sydd yn fwy costus. O 21 Medi ymlaen, fe fydd modd i bobl yng Nghymru archebu profion gyda darparwyr sector preifat yn ogystal â phrofion y GIG.
Emma Raducanu yn ennill Pencampwriaeth Tenis Agored yr UDA - Sky News
Mae Emma Raducanu wedi dod i’r brig yn rownd derfynol y merched ym Mhencampwriaeth Tenis Agored yr Unol Daleithiau. Dyma'r tro cyntaf i ddynes o'r Deyrnas Unedig ennill y teitl ers 44 mlynedd, yn ôl Sky News. Roedd Raducanu, sydd yn 18 oed ac yn dod o Bromley, yn wynebu Leylah Fernandez o Ganada.
Galar mam wedi marwolaeth ei mab 21 oed yn Affganistan
Mae rhiant wedi rhannu ei phrofiad o golli ei mab a fu farw yn y rhyfel yn Affganistan. Roedd Preifat James Prosser o Gwmbrân yn 20 oed pan benderfynodd ymuno â’r fyddin yn 2008. Penderfyniad - yn ôl ei fam, Sarah Adams, oedd wedi “torri ei chalon”. Bu farw Preifat James Prosser 63 diwrnod ar ôl cyrraedd Affganistan.
Syr Gareth Edwards: ‘O’dd Grav gyda’r gore’
Byddai dydd Sul wedi dynodi pen-blwydd un o gewri rygbi Cymru, Ray Gravell, yn 70 oed. Bu farw Grav, fel yr oedd cymaint yn ei adnabod, yn 2007 ac yntau’n 56 oed. Bydd ffilm sy’n seiliedig ar ddrama am ei fywyd, Grav, yn cael ei darlledu ar S4C nos Sul.
Cynllun benthyca beiciau yn bwriadu ‘lleihau dibyniaeth pobl ar geir’ - ITV Cymru
Mae cynllun peilot beiciau trydan wedi cael ei lansio mewn rhai ardaloedd yng Nghymru er mwyn hybu pobl i seiclo yn eu cymunedau lleol yn lle defnyddio’r car. Mae’r cynllun, sydd wedi derbyn mwy na £1 miliwn o arian gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei redeg gan yr elusen Sustrans, yn cynnig amrywiaeth o feiciau trydan am ddim ar fenthyciad tymor hir i drigolion lleol sydd ddim yn beicio'n rheolaidd neu'n gweld cost beiciau trydan yn rhwystr i'w defnyddio. Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno mewn pum lleoliad ledled Cymru sef Rhyl, Abertawe, y Drenewydd a’r Bari.
Saith marathon mewn saith diwrnod o amgylch arfordir Sir Benfro
Mae pedwar o ddynion ifanc yn dechrau ar her a hanner ddydd Sul wrth iddyn nhw geisio cwblhau saith marathon mewn saith diwrnod - a hynny o amgylch arfordir Sir Benfro. Mae’r pedwar, sy’n 25 oed ac yn hanu o ardaloedd Rhydychen a Reading, eisoes wedi codi £54,000 ar gyfer elusen iechyd meddwl.