Newyddion S4C

Cynllun benthyca beiciau yn bwriadu ‘lleihau dibyniaeth pobl ar geir’

ITV Cymru 12/09/2021

Cynllun benthyca beiciau yn bwriadu ‘lleihau dibyniaeth pobl ar geir’

Mae cynllun peilot beiciau trydan wedi cael ei lansio mewn rhai ardaloedd yng Nghymru er mwyn hybu pobl i seiclo yn eu cymunedau lleol yn lle defnyddio’r car.

Mae’r cynllun, sydd wedi derbyn mwy na £1 miliwn o arian gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei redeg gan yr elusen Sustrans, yn cynnig amrywiaeth o feiciau trydan am ddim ar fenthyciad tymor hir i drigolion lleol sydd ddim yn beicio'n rheolaidd neu'n gweld cost beiciau trydan yn rhwystr i'w defnyddio.

Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno mewn pum lleoliad ledled Cymru sef Rhyl, Abertawe, y Drenewydd a’r Bari.

Y bwriad yw i gasglu data er mwyn llywio argymhellion ar gyfer defnyddio beiciau trydan a theithio actif yn y tymor hir.

Un person sydd wedi elwa o’r cynllun yw Landon Sweeney. Mae Landon yn gweithio fel rhodiwr tref yn Ardal Gwella Busnes Rhyl ond yn byw ym Mae Colwyn. Mae'n defnyddio ei feic ar gyfer ei daith ddyddiol i Rhyl i weithio.

'Bod yn wych i'm hiechyd a lles'

Dywedodd Landon: “Yn byw yn Hen Colwyn byddwn fel arfer yn gyrru i'r gwaith sydd, oherwydd traffig, yn cymryd llawer mwy o amser nag y dylai, felly cipiais i’r cyfle i fenthyg beic trydan i feicio i'r gwaith.”

“Mae’r llwybr arfordirol gogledd Cymru yn daith syml o Hen Colwyn i'r Rhyl gyda golygfeydd syfrdanol ar hyd y ffordd, golygfeydd na wnes i werthfawrogi pan oeddwn i'n gyrru.

“Mae nid yn unig wedi arbed amser a rhoi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i mi, ond mae hefyd wedi bod yn wych i'm hiechyd a lles. Rwyf wedi dechrau colli pwysau yn ogystal ag ennill ffitrwydd - mae'n win-win!

Dywedodd Hayley Keohane, swyddog Cefnogi Cwricwlwm a Chyfarthrebu Sustrans: “Y bwriad yw i gallu helpu pobl i symud o gwmpas. Ni moyn helpu tlodi trafnidiaeth. Mae rhai pobl ddim yn gallu fforddio prynu car, felly da ni helpu cael mynediad i wasanaethau hanfodol.

“A hefyd yn amlwg lleihau dibyniaeth pobl ar geir."

Image
NS4C
Mae AS Lee Waters, Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, gyda chyfrifoldeb am drafnidiaeth, yn cydnabod y manteision o’r prosiect. [Llun: ITV Cymru]

Wrth ymweld ag un o'r cyfleusterau benthyca beic trydan yn Rhyl, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, gyda chyfrifoldeb am drafnidiaeth, Lee Waters: “Rydym am i gerdded a beicio dod yn ddewis arferol ar gyfer teithiau byrrach oherwydd mae teithio actif nid yn unig yn well i'n hamgylchedd, ond hefyd ein hiechyd a'n heconomi.

“Rydyn ni'n gwybod y bydd hyn yn golygu newid diwylliannol enfawr a dyna pam rydyn ni'n buddsoddi mewn cynlluniau fel y peilot beiciau trydan, i helpu pobl sydd heb wedi beicio o'r blaen i newid y ffordd maen nhw'n teithio, mewn ffordd fforddiadwy a chynaliadwy.”

Prif lun: ITV Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.