Newyddion S4C

Syr Gareth Edwards: ‘O’dd Grav gyda’r gore’

12/09/2021

Syr Gareth Edwards: ‘O’dd Grav gyda’r gore’

Byddai dydd Sul wedi dynodi pen-blwydd un o gewri rygbi Cymru, Ray Gravell, yn 70 oed.

Bu farw Grav, fel yr oedd cymaint yn ei adnabod, yn 2007 ac yntau’n 56 oed.

Bydd ffilm sy’n seiliedig ar ddrama am ei fywyd, Grav, yn cael ei darlledu ar S4C nos Sul.

Chwaraeodd Ray Gravell dros ei wlad rhwng 1975 a 1982, gan ymddangos 23 o weithiau dros ei wlad.

Roedd hefyd yn rhan o garfan y Llewod yn 1980.

Yn ddiweddarach yn ei yrfa, roedd yn ddarlledwr uchel ei barch ac yn aelod o Orsedd y Beirdd.

Roedd Syr Gareth Edwards yn rhan o garfan Cymru gyda Gravell am rai blynyddoedd.

Fe rannodd ei atgofion o Ray Gravell fel rhan o gyfres Chwedloni S4C.

Dywedodd Syr Gareth: “Yn enwedig mewn chwaraeon, ma’ lot o bobol yn meddwl bo nhw llawer gwell na beth ‘yn nhw ond o’dd Grav yn falle yn un o’r rheina o’dd e’n edrych am ychydig bach o hyder, bron bob eiliad o’r gêm.

“O, ti’n hoff iawn o fi?  Ti’n lico fi?  Beth ti’n feddwl?  Odw i’n whare’n dda?  Pethach fel hyn, a o’n i’n gweud ‘Grav, Dwi ‘di gweld ti’n edrych yn well, dwi ‘di gweld ti’n whare’n well’”.

“A i weld yr effaith o’dd e’n cael, ma’ hwnna’n anodd i credu.  ‘Pop it up, pop it up’, o’dd e moyn redeg trwyddo pob un, o’dd e yn ‘neud e.

“Seicolegol, o’dd e’n holl bwysig i Grav bod rhywun yn gweud, ‘Grav, ti gyda’r gore, ti’n haeddu bod fynna so paid â becso amdano fe”.

“O’t ti gyda’r gore”, ychwanegodd.

Bydd Grav yn cael ei darlledu ar S4C am 21:00 nos Sul

Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.