Arestio dyn wedi i gorff menyw gael ei ddarganfod mewn rhewgell ym Morthcawl

poplar crescent porthcawl.jpg

Mae dyn wedi ei arestio wedi i gorff menyw gael ei ddarganfod mewn rhewgell ym Mhorthcawl. 

Fe wnaeth Heddlu'r De fynd i gyfeiriad yn y dref brynhawn dydd Mawrth yn sgil pryderon am les menyw. 

Y gred yw fod menyw yn ei 80au wedi ei darganfod yn farw mewn rhewgell yn y cyfeiriad. 

Fe gafodd dyn 60 oed o Borthcawl ei arestio ar amheuaeth o atal claddedigaeth gyfreithlon ac mae ymholiadau'r heddlu yn parhau yn ôl y llu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.