Sam Costelow yn dechrau yn safle'r maswr ar gyfer y gêm yn erbyn yr Alban
Mae Sam Costelow wedi’i ddewis yn faswr am y tro cyntaf yn y Bencampwriaeth eleni wrth i Steve Tandy enwi tîm Cymru i wynebu’r Alban yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.
Mae pedwar newid i’r pymtheg cychwynnol ar gyfer ail gêm gartref Cymru ym Mhencampwriaeth 2026.
Bydd Gabriel Hamer-Webb yn dechrau ar yr asgell ddydd Sadwrn, ac ef fydd y 1,221fed chwaraewr i gynrychioli tîm cenedlaethol dynion Cymru.
Mae Ben Carter wedi’i ddewis yn glo i bartneru Dafydd Jenkins yn yr ail reng. Dyma fydd y tro cyntaf i Carter ddechrau gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Yn y rheng ôl, mae Taine Plumtree wedi ei ddewis yn flaenasgellwr ochr dywyll – a dyma fydd y tro cyntaf iddo ef ddechrau gornest yn y Chwe Gwlad hefyd.
Bydd Alex Mann yn parhau fel blaenasgellwr ochr agored ond bydd Aaron Wainwright yn symud yn ôl i safle’r wythwr yr wythnos hon.
Ymhlith yr eilyddion, mae Freddie Thomas, James Botham a Blair Murray i gyd yn barod i wneud eu hymddangosiadau cyntaf dros Gymru yn yr ymgyrch hon.
Dywedodd Steve Tandy: "Mae rhai newidiadau i’r tîm yr wythnos yma, gan ein bod ni’n teimlo mai hwn yw’r tîm gorau i wynebu’r Alban yn benodol.
"Mae’r ffaith mai dim ond chwe niwrnod sydd rhwng y gemau’r tro yma wedi golygu bod angen i ni ddod ag ychydig o waed newydd i mewn i’r tîm y tro hwn.
"Hon yw ein trydedd gêm yn y Bencampwriaeth eleni ac ry’n ni eisiau adeiladu ar agweddau cadarnhaol ein perfformiadau hyd yma. Ry’n ni eisiau gweld mwy o gysondeb a dilyniant yn ein chwarae, ac os y gallwn ni wneud hynny, fe fyddwn ni’n dod yn llawer nes at gael y canlyniad ry’n ni ei eisiau."
'Haeddu ei gyfle'
Wrth gyfeirio at y ffaith y bydd Gabriel Hamer-Webb yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad, ychwanegodd Tandy: "Mae Gabe wedi creu argraff fawr arna’i trwy gydol yr amser mae wedi bod yn ymarfer gyda ni. Mae’n barod iawn i ddysgu ac i addasu ac mae wedi ymgartrefu’n rhwydd yn y garfan.
"Mae ei ymdrech wrth ymarfer wedi bod yn ardderchog. Yn ystod y cyfnod pan nad oedd yn dechrau dros Gaerlŷr, roedd pawb yno’n canmol ei agwedd.
"Roedd yn parhau i wneud ei orau dros y garfan a’r tîm tra’n dal ati’n ddi-flino i wneud popeth o fewn ei allu i ennill ei le’n y pymtheg cychwynnol.
"Pan gafodd ei gyfle – fe gymrodd hwnnw gyda dwy law – a gobeithio y gwnaiff yr un peth gyda ni. Mae’n llawn haeddu ei gyfle."
Tîm Cymru i wynebu'r Alban
15. Louis Rees-Zammit (Bristol Bears – 37 cap)
14. Gabriel Hamer-Webb (Leicester Tigers – heb gap)
13. Eddie James (Scarlets – 6 cap)
12. Joe Hawkins (Scarlets – 8 cap)
11. Josh Adams (Rygbi Caerdydd – 67 cap)
10. Sam Costelow (Scarlets – 19 cap)
9. Tomos Williams (Gloucester Rugby – 69 cap)
1. Rhys Carre (Saracens – 25 cap)
2. Dewi Lake (Y Gweilch – 28 cap) capten
3. Tomas Francis (Provence Rugby – 79 cap)
4. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs – 28 cap)
5. Ben Carter (Y Dreigiau – 16 cap)
6. Taine Plumtree (Scarlets – 13 cap)
7. Alex Mann (Rygbi Caerdydd – 13 cap)
8. Aaron Wainwright (Y Dreigiau – 64 cap)
Eilyddion
16. Ryan Elias (Scarlets – 45 cap)
17. Nicky Smith (Leicester Tigers – 60 cap)
18. Archie Griffin (Bath Rugby – 13 cap)
19. Freddie Thomas (Gloucester Rugby – 7 cap)
20. James Botham (Rygbi Caerdydd – 18 cap)
21. Kieran Hardy (Y Gweilch – 30 cap)
22. Jarrod Evans (Harlequins – 15 cap)
23. Blair Murray (Scarlets – 14 cap)
