Arestio Andrew Mountbatten-Windsor ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus
Mae Andrew Mountbatten-Windsor wedi ei arestio ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus yn ôl yr heddlu.
Fe gafodd yr heddlu eu gweld yn cyrraedd cartref Andrew ar ystad Sandringham fore Iau, diwrnod ei benblwydd yn 66 oed.
Collodd Andrew, sy'n frawd i'r Brenin Charles III, ei deitl tywysog ym mis Tachwedd 2025 ar ôl honiadau ynglŷn â'i berthynas â'r pedoffeil Jeffrey Epstein.
Mae wedi gwadu gwneud unrhyw beth o'i le yn y gorffennol.
Mae’r heddlu wedi bod yn ystyried y cyhuddiadau yn erbyn Andrew, sydd wedi gwadu gwneud unrhyw beth o'i le.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd Heddlu Thames Valley: "Fel rhan o'r ymchwiliad, rydym ni heddiw (19/2) wedi arestio dyn yn ei 60au o Norfolk ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, ac rydym yn chwilio cyfeiriadau yn Berkshire a Norfolk.
"Mae'r dyn yn parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.
"Ni fyddwn ni'n enwi'r dyn sydd wedi'i arestio, yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Cofiwch hefyd fod hwn yn achos byw felly dylid bod yn ofalus gydag unrhyw gyhoeddiad er mwyn osgoi dirmyg llys."
'Diddordeb cyhoeddus'
Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Oliver Wright: "Yn dilyn asesiad trylwyr, rydym ni wedi agor ymchwiliad i honiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
"Rydym ni'n ymwybodol o'r diddordeb cyhoeddus sylweddol yn yr achos, ac fe fyddwn ni'n darparu diweddariadau pan mae'n briodol i wneud hynny."
Mae Heddlu Norfolk wedi dweud eu bod yn “cefnogi ymchwiliad Heddlu Thames Valley i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus”.
Rhyddhaodd Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau filiynau o ffeiliau yn ymwneud â’r ymchwiliad i Jeffrey Epstein fis diwethaf.
Roedd rhai ohonynt yn cynnwys e-byst oedd yn ymddangos fel pe bae'n nhw wedi dod gan Andrew, a lluniau ohono.
Mae nifer o heddluoedd ledled y DU yn asesu gwybodaeth a ryddhawyd fel rhan o ddogfennau Epstein.
Mae swyddogion o Surrey, Swydd Bedford, Essex, Norfolk, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Wiltshire a’r Alban i gyd wedi dweud eu bod yn adolygu gwybodaeth.
Ddydd Mercher, dywedodd Heddlu'r Met eu bod nhw hefyd yn edrych ar honiadau bod swyddogion amddiffyn Andrew wedi troi “llygad dall” at ei ymweliadau ag ynys Epstein, Little St James.
Dywedodd yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol eu bod yn cefnogi heddluoedd y DU yn eu hymchwiliadau i ffeiliau Epstein.
Yn dilyn colli ei deitl tywysog fe wnaeth Andrew adael ei gartref yn Royal Lodge, Windsor a symud i ystad Sandringham yn Norfolk.
Cafodd Epstein ei ddarganfod yn farw yn ei gell mewn carchar ym Manhattan yn Awst 2019, tra roedd yn aros am ei achos llys ar gyhuddiad o gyfres o droseddau rhyw.
