'Dwi jest rili rili trist': Dryswch dros ffioedd rhai cyrsiau creadigol
'Dwi jest rili rili trist': Dryswch dros ffioedd rhai cyrsiau creadigol
Mae rhai myfyrwyr o Gymru sydd eisiau astudio cyrsiau creadigol arbenigol yn Lloegr yn wynebu gorfod talu am ffioedd y cyrsiau eu hunain oherwydd trafferthion dynodiad rhai colegau.
Mi ddaw’r pryder ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad yw rhai colegau a chyrsiau yn cael eu cydnabod yn ffurfiol gan Gyllid Myfyrwyr Cymru gan nad ydyn nhw wedi cofrestru gyda’r rheoleiddiwr OFS.
Mae’n golygu nad yw Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cydnabod rhai cyrsiau penodol ac nad oes modd iddyn nhw gynnig cyllid i fyfyrwyr o Gymru sydd am astudio nhw.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae nhw’n ymwybodol o’r sefyllfa a lle colegau ydi gwneud cais am ddynodi cwrs i Medr, y rheoleiddiwr yma yng Nghymru.
Wrth siarad efo Newyddion S4C mae grwpiau celfyddydol wedi dweud bod y dryswch yn golygu nad oes gan fyfyrwyr rhai cyrsiau cyfleoedd i astudio’r cwrs mae nhw am eu gwneud oni bai eu bod yn dod o hyd i ddegau ar filoedd o bunnoedd mewn ffioedd myfyrwyr.
Un grŵp sy’n poeni am y goblygiadau ydi CircoArts yng Ngwynedd, criw o bobl sy’n hyfforddi ac yn cynnal sesiynau syrcas.
Yr wythnos hon mi glywodd Cian Edward Williams, 20 oed, ei fod wedi llwyddo mewn clyweliad i astudio yn Circo Media, coleg yn Lloegr sy’n hyfforddi ym maes y syrcas.
Ond oherwydd y newidiadau dydi Cyllid Myfyrwyr Cymru ddim yn fodlon cyfrannu at ei ffioedd myfyrwyr a felly byddai’n rhaid iddo ddod o hyd i’r cyllid i ariannu’r gradd ei hun.
"Natho o roi fi lawr lot a hyd yn oed bron neud imi benderfynu nad oeddwni am wneud yr audition," meddai.
"Geshi e-mail basically yn dweud ‘da ni methu fundio’ chdi, a bod na ddim second option... Oedd o jest yn teimlo bo nhw heb roi meddwl mewn iddo heb feddwl am y backlash."
Ei freuddwyd ydi teithio ar draws y byd yn perfformio ond mae’n ansicr a fydd modd astudio rŵan i wireddu hynny.
Mae’r trafferthion sydd wedi dod i sylw Newyddion S4C hefyd yn effeithio ar gyrsiau arbenigol ym maes perfformio, theatr a dawns.
Mae Eirwen Howorth yn gweithio gyda chriw Circo Media ac yn dweud nid pawb all gynnal y cwrs eu hunain.
"Mae rhan fwyaf o bobl yn cymryd for granted eu bod nhw’n gallu astudio beth bynnag mae nhw eisiau," meddai.
"Ond oherwydd y funding cuts mae rhai pobl yn gorfod meddwl, yda nhw wir yn gallu gwneud hyn a dydi rhan fwyaf o bobl ddim yn gallu fforddio talu student loans allan o’u poced."
Mae Circo Arts yng ngogledd Cymru yn teithio ar draws cymunedau ac yn cynnal sesiynau mewn ardaloedd sy’n gymwys ar gyfer cynllun Dechrau’n Deg.
Mae un o arweinwyr y grŵp, Mzima Thompkins, yn dweud y gallai cymunedau nôl Nghymru golli allan hefyd.
"Da ni 'di helpu pobl fynd i Loegr i astudio ers blynyddoedd ac i weld ffrindiau fi yn cael eu hopes and dreams yn cael ei ripio oddi wrthyn nhw, mae’n edrych i mi nad oes na reswm," meddai. "Dwi jest rili rili trist."
Mae Newyddion S4C wedi siarad efo undebau, colegau a phrifysgolion sy’n dweud mai newidiadau i brosesau cofrestru rhai cyrsiau sydd wedi arwain at y trafferthion.
Er mwyn i Gyllid Myfyrwyr Cymru allu cyfrannu’n ariannol at ffioedd, mae’n rhaid i gwrs a choleg fod wedi cofrestru gyda swyddfa’r OFS, y rheoleiddiwr.
Mae rhai colegau annibynnol mewn partneriaethau gyda phrifysgolion mwy ac yn benthyg y statws hwn.
Ond eleni mae dryswch o ran pwy sy’n gyfrifol am wneud hynny ac nad yw wedi digwydd gan sy’n golygu nad oes modd i Gyllid Myfyrwyr Cymru gynnig benthyciadau.
Mae wedi arwain at ddeiseb ar-lein yn galw am newid i’r drefn a hynny wedi’w llofnodi gan mwy na 7,000 o bobl.
Wrth ymateb i’r pryderon mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod "yn ymwybodol o’r mater hwn ac wedi bod yn gweithio gyda Cyllid Myfyrwyr Cymru i ystyried y goblygiadau. Mae darparwyr yn gyfrifol am wneud cais dynodi cwrs i Medr, sy’n galluogi myfyrwyr o Gymru sydd yn gymwys i gael mynediad at gyllid myfyrwyr, ac rydym wedi eu hatgoffa am y cyfrifoldeb hwn.
"Mae Cymru yn parhau i gynnig y pecyn cynnal myfyrwyr mwyaf hael yn y DU i fyfyrwyr cymwys ar gyrsiau dynodedig."
Dywedodd Medr nad oes gan y corff "unrhyw ran yn y dynodiad awtomatig o gyrsiau ar gyfer cymorth i fyfyrwyr. Mae hwn yn fater i Lywodraeth Cymru a'r darparwyr yr effeithir arnynt.
"Fodd bynnag, rydym yn parhau i wneud Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o bryderon ynghylch llwybrau ariannu ar gyfer myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru sy'n hyfforddi mewn theatr gerdd a dawns yn Lloegr ac rydym yn cael gwybod am y sefyllfa."