Dyn o'r gogledd yn euog o lofruddio ar ôl cynnau tân yn fwriadol y tu allan i dŷ cwpl oedrannus
Mae dyn o Sir y Fflint a oedd wedi targedu tŷ cwpl oedrannus "ar hap" yng nghanol y nos a chynnau tân wedi’i gael yn euog o lofruddio.
Roedd Andrew Gorrell, 54, o Saltney, yn gwisgo crys-T Nightmare on Elm Street, sef ffilm arswyd lle cafodd y prif gymeriad ei losgi’n fyw, pan gynnodd dân y tu allan i gartref John a Doreen Edwards yn Wednesbury yn oriau mân y bore ar 11 Mai'r llynedd, clywodd Llys y Goron Wolverhampton.
Cafodd y tân ei gynnau mewn bin yr oedd Gorrell wedi'i symud i rwystro drws ffrynt yr eiddo ar Heol Caergybi, cyn ymledu i'r cartref.
O ganlyniad i'r tân roedd Mr Edwards wedi dioddef anafiadau difrifol a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach ar 25 Mai.
Cafodd ei wraig Mrs Edwards, 81, a'u dau fab Carl, 60, a Mark Edwards, 57, a oedd yn aros yn y cartref ar y pryd, eu hanafu a'u cludo i'r ysbyty.
Nid oedd gan Gorrell unrhyw gysylltiadau hysbys gyda'r teulu, eu tŷ nac ardal Wednesbury.
Cymerodd lai na phedair awr i'r rheithgor ddychwelyd rheithfarnau euog unfrydol i un cyhuddiad o lofruddiaeth, dau gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad, ceisio achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad a llosgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywydau.
Dywedodd Rachel Brand KC ar ran yr erlyniad fod Gorrell wedi teithio o Gymru a'i fod wedi cael ei ddal gyntaf ar deledu cylch cyfyng yng ngorsaf tram Wolverhampton Central tua 00:40 ar 11 Mai lle aeth ar dram i Wednesbury Parkway, gan gyrraedd ychydig cyn 01:00.
Roedd staff wedi gofyn iddo symud ymlaen ar ôl iddo gael ei weld yn loetran y tu allan i gartref gofal ar Ffordd Caergybi.
Cafodd ei weld hefyd yn loetran ger ysgol cyn iddo symud i gartref y teulu Edwards.
Dywedodd Ms Brand: "Roedd yn byw cryn bellter i ffwrdd. Dydyn ni ddim yn gwybod pam y daeth i lawr i Orllewin Canolbarth Lloegr y noson honno ym mis Mai y llynedd a dydyn ni ddim yn gwybod pam y bu’n crwydro o gwmpas Wednesbury yng nghanol y nos.
"Dydyn ni ddim yn gwybod pam y penderfynodd gynnau tân yng nghartref teulu Edwards.
"Pan gafodd ei arestio a’i gyfweld, ni wnaeth unrhyw sylwadau i bob cwestiwn a ofynnwyd gan yr heddlu.
"Dim ond y diffynnydd all ddweud wrthych pam."
'Ymddygiad gwyllt'
Roedd Gorrell wedi dewis peidio rhoi tystiolaeth yn ei amddiffyniad yn ystod yr achos.
Ond dadleuodd ei fargyfreithiwr Michael Duck KC fod ei weithredoedd yn cynnwys nodweddion "ymddygiad gwyllt" gan rywun oedd yn feddw iawn.
Fe wnaeth Gorrell gyfaddef yn flaenorol i dri chyhuddiad o gynnau bwriadol mewn cysylltiad â thri thân ar wahân yr oedd wedi eu cynnau yn Wednesbury yn yr oriau yn dilyn y tân yn nhŷ'r teulu Edwards.
Roedd y tanau mewn bin ger tafarn, bin gwastraff masnachol y tu allan i siop tecawê pitsa, ac mewn bin gwastraff cyngor mewn stryd gyfagos.
Clywodd y llys fod cymydog y teulu Edwards wedi ffonio 999 am 03:06 ar 11 Mai ac erbyn i'r cyntaf o dair injan dân gyrraedd am 03:14, roedd y tân bin olwynion wedi ymledu i'r tŷ ac i'r cyntedd.
Roedd John Edwards yn lled-ymwybodol ac wedi dioddef llosgiadau difrifol i'w wyneb, ei freichiau, ei goesau a'i draed pan gafodd ei achub o'r llawr gwaelod.
Yn y cyfamser roedd Carl Edwards wedi llwyddo i ddringo allan o ffenestr ar y llawr cyntaf ac i'r ardd gefn, lle'r oedd yn dioddef o effeithiau anadlu mwg.
Cafwyd hyd i Mark Edwards, a oedd wedi bod yn cysgu yn yr ystafell fyw ar y pryd, mewn ystafell wely ar y llawr uchaf lle'r oedd wedi mynd i rybuddio ei rieni a'i frawd am y tân. Roedd ganddo losgiadau difrifol i'w ddwylo, ei draed, ei wyneb a'i lygaid.
Roedd Mrs Edwards yn lled-ymwybodol ac roedd parafeddygon yn ofni y byddai'n cael ataliad ar y galon.
Dywedodd Ms Brand: "Yn anffodus, ni wnaeth John Edwards oroesi, roedd ei anafiadau’n rhy ddifrifol.
"Roedd meddygon wedi cynghori ei deulu fod triniaeth bellach yn ofer ac y gallai ymestyn ei ddioddefaint, felly ni chawsant unrhyw ddewis ond derbyn y cyngor meddygol arbenigol hwnnw."
Diystyriodd ymchwilwyr fod y tân wedi'i gynnau'n ddamweiniol, gan ddod i’r casgliad mai tanio cynnwys y bin olwynion a gychwynnodd y tân.
Yn ystod yr achos, dywedodd Ms Brand wrth y rheithgor: "Rydym yn gofyn i chi gofio’r ymadrodd syml – mae gweithredoedd yn siarad yn uwch na geiriau.
"Fe wnaeth gynnau tân yng nghanol y nos pan oedd pobl yn cysgu. Fe wnaeth symud y bin olwynion a’i osod yn fwriadol y tu allan i’r drws ffrynt lle byddai’n achosi i’r tân ledaenu, ond hefyd yn rhwystro unrhyw un y tŷ rhag gadael.
"Ni wnaeth rybuddio unrhyw un am y tân. Pe bai wedi bod allan i achosi ychydig o ddrygioni neu ychydig o ddifrod, gallai fod wedi cymryd camau i sicrhau bod y frigâd dân yn cael gwybod.
"Fe wnaeth gerdded i ffwrdd, gan adael i’r tân ledaenu a llyncu blaen y tŷ gyda’r canlyniad anochel y byddai’r bobl y tu mewn yn cael eu hanafu’n ddifrifol."
Ychwanegodd: "Mae’n ddyn 54 oed, nid plentyn nac yn arddegwr gwirion mohono. Mae’n ddyn aeddfed. Mae’r ffaith iddo symud y bin i’r safle hwnnw, meddwn ni, yn dangos ei fod yn bwriadu i’r trigolion gael eu hanafu’n ddifrifol.
"Ei ddewis ef oedd cynnau tân mewn bin wrth ymyl tŷ lle’r oedd pobl yn cysgu yn hytrach na chynnau tân mewn ffatri wag neu siop wag."
Bydd dyddiad yn cael ei ddewis ar gyfer ei ddedfrydu maes o law.
