Cyngor Abertawe yn gofyn am orchymyn llys i atal Undeb Rygbi Cymru

Cyngor Abertawe yn gofyn am orchymyn llys i atal Undeb Rygbi Cymru

Mae Cyngor Abertawe wedi gofyn am orchymyn yn yr Uchel Lys i atal cytundeb rhwng Undeb Rygbi Cymru a pherchnogion y Gweilch, cwmni Y11, ar gyfer prynu clwb Rygbi Caerdydd.

Mae pryderon y byddai rhanbarth rygbi’r Gweilch yn diflannu pe bai'r cytundeb yn mynd yn ei flaen.

Dywedodd y cyngor eu bod nhw wedi gwneud cais am wrandawiad llys brys a allai ddigwydd cyn gynted â'r wythnos hon.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe: "Fodd bynnag, os bydd Undeb Rygbi Cymru yn rhoi ymrwymiad ysgrifenedig yn y cyfamser na fydd yn cwblhau'r cytundeb, gallai gwrandawiad y llys gael ei oedi i ddyddiad diweddarach.

"Byddai'r cytundeb sy'n cael ei gynnig rhwng Undeb Rygbi Cymru a Y11 i brynu Rygbi Caerdydd yn golygu diwedd y Gweilch fel tîm rhanbarthol dynion proffesiynol yn cymryd rhan yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

"Rydym yn ceisio gorchymyn atal i rwystro'r cytundeb hwn rhag mynd yn ei flaen fel y gall trafodaethau pellach ddigwydd tra bo strwythur rhanbarthol cyfredol y pedwar tîm yn parhau i fod yn ei le."

Ychwanegodd: "Byddai'r gorchymyn atal yn rhoi cyfle i'r holl bartïon ystyried opsiynau eraill ar gyfer dyfodol rygbi rhanbarthol yng Nghymru.

"Credwn mai cam rhesymol a phriodol yw hwn yn wyneb y risg i ddyfodol y Gweilch a'r effaith y gallai hynny ei gael ar Abertawe a'r rhanbarth ehangach.

"Mae chwaraewyr, cefnogwyr, trigolion, clybiau cymunedol a busnesau lleol yn sefyll gyda'i gilydd o blaid i'r Gweilch gael parhau fel un o bedwar tîm rhanbarthol proffesiynol Cymru."

Penderfynodd cabinet y cyngor wneud cais am orchymyn atal ddydd Llun.

Ychwanegodd y llefarydd: "Mewn cam gweithredu ar wahân yn gynharach yr wythnos hon, gofynnodd y cyngor yn ffurfiol i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ymchwilio i'r cytundeb a gynigiwyd rhwng y CCG a Y11.

"Mae pryderon y Cyngor yn canolbwyntio ar y gostyngiad arfaethedig o dîmiau proffesiynol o bedwar i dair, y broses ar gyfer dyrannu trwyddedau, a'r potensial i un grŵp perchenogaeth reoli dau glwb yng Nghymru."

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cael cais am sylw.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.