Dau gefnder ifanc yn sefydlu papur bro newydd yng Ngwynedd

Newyddion S4C

Dau gefnder ifanc yn sefydlu papur bro newydd yng Ngwynedd

Ym mhentref Rhostryfan ger Caernarfon, mae ‘na fenter newydd ar droed. Papur bro newydd sbon a dau gefnder 13 oed sydd tu ôl i’r cyfan.

Mae Celyn a Caio, sy’n ddisgyblion yn Ysgol Syr Hugh Owen, wedi mynd ati i sefydlu papur bro newydd – Papur y Bobl.

Mae’n bapur “llwyddiannus iawn” yn ôl Celyn, ac maen nhw wedi ei ddosbarthu i dros 41 o dai gwahanol.

“Dwi wedi dod i adnabod y gymuned, a dwi wrth fy modd yn cymysgu efo pobl eraill wrth ei ddosbarthu o,” meddai Celyn.

Celyn yw gohebydd y papur, ac felly ei swyddogaeth ydi ysgrifennu a dod o hyd i straeon. Er bod y papur yn un wythnosol, dydi dod o hyd i straeon newydd yn ddim problem iddo.

Image
Celyn
Celyn

“Gan bod ni’n nabod pawb yn y pentre’, ‘da ni’n gwybod sut i roi cyfweliadau i bobl a lle mae nhw’n byw,” meddai.

“Da’ ni wrth ein boddau yn ffeindio straeon gwahanol, a da’ ni’n ffeindio petha’ bob wythnos so ma’ hynny yn beth da."

Mae gan Papur y Bobl wasanaeth digidol hefyd, a Caio yw’r un sy’n gyfrifol am yr ochr yna.

“Fy rhan i yn y papur bro, rhan fwyaf o’r amser fi ydy’r adran technegol o bob dim,” meddai Caio.

“Felly fi sy’n rhoi bob dim ar YouTube, editio pob dim a da’ ni’n neud podlediad hefyd."

Mae Caio o’r farn bod nhw’n gwneud “gwaith pwysig”.

“Dwi’n meddwl bod o’n rhoi llais i bobl y pentre’ a rhoi lle i’r gymuned siarad," meddai.

Yn ôl y ddau, gwaith tim effeithiol yw’r allwedd tu ôl i’r cyfan.

“Da’ ni’n ffreuo yn aml ond diwrnod newydd a da’ ni’n iawn wedyn,” meddai Caio.

“Byse fi ddim yn gallu neud hyn heb Celyn, a ma’ siŵr fyse Celyn yn dweud hebdda fi fyse fo methu chwaith, do da’ ni angen gweithio efo ein gilydd i gadw’r papur bro i fynd."

Wrth i Bapur y Bobl fynd o nerth i nerth, mae gan y cefndryd yma gynlluniau mawr.

“Fyswn i wrth fy modd yn bod yn newyddiadurwr, neu yn ohebydd, fyswn i wir wrth fy modd," meddai Celyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.