Rhai o enwogion Cymru yn galw am ysgol uwchradd Gymraeg yn ne Caerdydd
Mae rhai o enwogion Cymru wedi arwyddo llythyr yn galw ar Gyngor Caerdydd i sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg yn ne'r brifddinas.
Mae'r llythyr agored yn galw ar arweinydd a chabinet y cyngor i sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg ar gyfer trigolion Tre-Biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos.
Ymhlith y bobl sydd wedi llofnodi'r llythyr mae rhai o gerddorion mwyaf blaenllaw Cymru, gan gynnwys Dafydd Iwan, Caryl Parry Jones a Gruff Rhys.
Daw'r llythyr ar ôl i gabinet Cyngor Caerdydd roi sêl bendith i "ymarfer ymgysylltu" er mwyn trafod darpariaeth addysg Gymraeg y brifddinas.
Mae pyderon na fydd dim digon o le yn nhair ysgol uwchradd Gymraeg y sir ar gyfer plant sy'n symud o ysgolion cynradd erbyn mis Medi 2027.
Ymhlith y syniadau mae sefydlu pedwaredd ysgol uwchradd, symud Ysgol Bro Edern i safle arall, sefydlu campws Chweched Dosbarth cyfrwng Cymraeg a sefydlu darpariaeth Cymraeg mewn ysgol uwchradd Saesneg.
Ond mae'r llythyr yn dweud bod cael ysgol uwchradd Gymraeg ar gyfer cymunedau Tre-Biwt a Grangetown yn "fater o gyfiawnder cymdeithasol".
"Mewn dinas o faint Caerdydd, mae angen ysgolion Cymraeg wedi eu lleoli yn y gorllewin, y gogledd, y dwyrain, a'r de," meddai'r llythyr.
"Yn ne Caerdydd mae’r cymunedau mwyaf aml-ddiwylliannol - nid yn unig yn y ddinas, ond yng Nghymru gyfan. Hi hefyd yw un o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yn economaidd yn y wlad.
"Mater o gyfiawnder cymdeithasol yw sicrhau bod addysg uwchradd Gymraeg ar gael yn lleol i wasanaethu teuluoedd yr ardal."
Dywedodd Cyngor Caerdydd wrth Newyddion S4C nad oedden nhw am ymateb yn uniongyrchol i'r llythyr newydd.
'Hanfodol darparu mewn da bryd'
Ar hyn o bryd mae tair ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd: Ysgol Gyfun Glantaf; Ysgol Gyfun Plasmawr; ac Ysgol Gyfun Bro Edern.
Ond mae'r llythyr yn nodi gobeithion y byddai pedwerydd ysgol uwchradd y brifddinas yn cynnwys addysg feithrin a chynradd ar yr un safle.
"Gyda’r dyletswyddau newydd sydd ar y Cyngor Sir i dyfu addysg Gymraeg yn sylweddol, yn ogystal â’r miloedd o gartrefi newydd sy’n dod i dde’r brifddinas yn sgil y cynllun datblygu lleol, does dim amheuaeth bod angen rhagor o ddarpariaeth gynradd Gymraeg yn ardal Grangetown a Thre-biwt, yn ogystal ag ysgol uwchradd Gymraeg newydd sbon," meddai'r llythyr.
"Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb o bob cefndir ac yn etifeddiaeth gyffredin i ni i gyd. Drwy sefydlu ysgol Gymraeg bob oed wrth galon yr ardal hon, byddwch yn sicrhau bod cymunedau de’r brifddinas yn berchen ar gampws Cymraeg gydol oes ar stepen y drws.
"Man lle gall y gymuned ddathlu hanes a hunaniaeth unigryw’r ardal gyda balchder a dysgu am y byd yn unol ag un o brif gonglfeini’r Cwricwlwm i Gymru."
Mewn datganiad, dywedodd Dafydd Iwan ei bod yn "fraint" cael cefnogi'r ymgyrch "bwysig" hon.
"O'r holl ddatblygiadau gwych sy'n digwydd i gryfhau'r iaith Gymraeg fel iaith fyw, does yr un sy'n bwysicach na thwf yr ysgolion cyfrwng Cymraeg," meddai.
"Mae'n hanfodol felly ein bod yn darparu mewn da bryd ar gyfer y galw am fwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn enwedig yn ein prifddinas."
Fel un o rieni’r ardal a siaradwr Cymraeg, dywedodd yr awdur Hammad Rind sydd wedi arwyddo: "Cefais fy magu ym Mhanjab, Pacistan, gwlad amlieithog lle Panjabi yw'r iaith gyda'r mwyafrif o siaradwyr.
"Ond nid yw Panjabi yn cael ei dysgu mewn unrhyw ysgolion ym Mhacistan. O ganlyniad, dyw'r rhan fwyaf o bobl fy nghenhedlaeth ym Mhacistan ddim yn gallu darllen Panjabi ac maen nhw'n anwybodus o'i llenyddiaeth gyfoethog.
"Mae addysg yn rhoi hyder a dyfodol i iaith. Os ydyn ni eisiau i’r Gymraeg ffynnu, rhaid i ni sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl gymunedol i addysg cyfrwng Cymraeg."
Mae'r ymgynghorydd addysg blaenllaw, Geraint Rees, eisoes wedi cwestiynu blaenoriaethau'r cyngor.
"Mae'r twf wedi bod yn yr arfaeth ers amser ac roedd isie datrysiadau," meddai wrth rhaglen Newyddion S4C ar ddiwedd mis Ionawr.
"Tra bod arian cyfalaf mawr wedi'i wario mewn mannau eraill yn y ddinas, dyw hwn heb gael ei ateb. Mae hynny'n gofyn y cwestiwn, ble maen nhw 'di bod? A mater gwleidyddol yw hynny."
Dros y 15 mlynedd ddiwethaf, mae bron i hanner biliwn o bunnoedd wedi'i wario ar ysgolion yn y brifddinas.
Mae pum ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg newydd wedi eu hadeiladu eisoes ac mae 'na ddwy arall ar y ffordd.
Ond mae arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, wedi gwadu bod y sector Saesneg yn cael ffafriaeth.
"Beth sydd wedi gyrru'r rhaglen yna o fuddsoddi ydy beth yw condition yr ysgolion," meddai ar ddiwedd Ionawr.
"Dim byd i'w wneud gydag iaith, mond ymateb i'r ffaith bod nifer o'r ysgolion Saesneg ar ddiwedd eu bywyd. Ni 'di addysgu rhai o ddisgyblion yr ysgolion hynny yn Neuadd y Sir yma am gyfnod yn y pum mlynedd diwethaf oherwydd bod issues gyda'u hysgolion nhw.
"Felly, mater o ansawdd yr adeiladau. 'Da ni'n derbyn bod 'na heriau o ran ansawdd gydag ysgolion uwchradd Cymraeg hefyd ac mae 'na fuddsoddi wedi bod."
Gall trigolion ddweud eu dweud ar ddyfodol addysg uwchradd Gymraeg y brifddinas tan 26 Mawrth 2026.
