Rhybudd am amodau gyrru ‘hynod o wael’ yn y canolbarth ar ôl eira

Rhybudd eira 17 Chwefror 2026

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio am amodau gyrru “hynod o wael” yn y canolbarth ar ôl eira fore dydd Iau.

Roedd rhybudd melyn am eira mewn grym dros y rhan helaeth o Gymru nes 6.00 ddydd Iau, ac mae rhybudd am rew mewn grym nes 10.00.

Mae rhybudd am rew mewn grym ym mhob sir heblaw am Ynys Môn, Caerdydd, Sir y Fflint, Casnewydd, a Bro Morgannwg.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod amodau ffyrdd yn hynod o wael ar draws yr A44 rhwng Llandrindod a Kington ym Mhowys oherwydd yr eira.

Maen nhw’n cynghori pobl i beidio â theithio os nad oes angen.

Mae rywfaint o eira hefyd wedi syrthio dros nos ym mlaenau'r cymoedd, gan gynnwys Dowlais, Tredegar a Glyn Ebwy.

Ansefydlog

Yn y cyfamser mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio bod y tywydd ansefydlog yn debygol o barhau am fis arall.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi annog trigolion a busnesau i fod yn wyliadwrus o’r risg o llifogydd, gyda’r tywydd gwlyb yn debygol o barhau ym Mhrydain Fawr nes canol mis Mawrth.

Mae'r amodau wedi bod yn eithriadol o wlyb ers dechrau'r flwyddyn, gyda llif aer o’r de yn dod â glaw a gwyntoedd cryfion yn gyson.

Mae ffigurau'r Swyddfa Dywydd yn dangos bod 175.6 mm o law wedi cwympo ar draws Cymru ym mis Ionawr 2026 ac mae hynny’n 113% yn fwy na'r cyfartaledd misol rhwng 1991 a 2020.

Dim ond Gogledd Iwerddon a welodd mwy o law na Chymru ar draws y DU.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.