Newyddion S4C

Galar mam wedi marwolaeth ei mab 21 oed yn Affganistan

12/09/2021

Galar mam wedi marwolaeth ei mab 21 oed yn Affganistan

Mae rhiant wedi rhannu ei phrofiad o golli ei mab a fu farw yn y rhyfel yn Affganistan.

Roedd Preifat James Prosser o Gwmbrân yn 20 oed pan benderfynodd ymuno â’r fyddin yn 2008.

Penderfyniad - yn ôl ei fam, Sarah Adams, oedd wedi “torri ei chalon”.

“Roedd James wastad yn un ddoniol, hapus, clên a hamddenol,” dywedodd Sarah wrth raglen 9/11: Diwrnod Wnaeth Newid Fy Mywyd ar S4C.

“Roedd ganddo gynlluniau i astudio dylunio graffeg. Roeddwn ni mor drist pan ddywedodd ei fod e eisiau ymuno â’r fyddin.

“Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd y byd yn le ofnadwy. Roedden ni wedi cael 9/11 yn 2001, a gafodd James wybod yn reit sydyn y byddai’n mynd i Affganistan y flwyddyn yna.

“Nes i dorri fy nghalon. Roeddwn ni’n ofn o hyd – hyd yn oed cyn iddo fynd, roeddwn ni wastad yn meddwl am y peth.

“Roeddwn ni’n meddwl am ffyrdd y gallwn ei gadw adref.”

‘Eisiau gwneud pethau’n well i fywydau pobl Affganistan’

Erbyn Chwefror 2009, roedd James Prosser wedi cwblhau ei hyfforddiant ac wedi ymuno â Chatrawd Brenhinol Cymru.  

Dywedodd ei fam ei fod yn benderfynol o fynd i Affganistan, ac fe ddaeth y cyfle yn mis Gorffennaf y flwyddyn honno. 

“Mi oedd e wastad yn dweud wrtha i ei fod o eisiau gwneud pethau’n well i fywydau pobl Affganistan – a hwnna oedd y peth pwysica’,” meddai.

Image
Sarah Adams
Ymunodd Preifat James Prosser â Chatrawd Brenhinol Cymru yn Chwefror 2009 yn 21 oed. [Llun: Sarah Adams]

“Roedd o’n teimlo’n angerddol amdan hynna.

“Nes i gymryd fe i Tidworth, ac oedd e’n ofnadwy o dawel.

“Dwi’n cofio dweud: ‘Dwi angen cymryd llun ohona ti’, a doedd e byth gyda llun ohona fe ddim yn gwenu. Ond tro ‘ma, roedd ganddo wyneb syth gyda dim gwên.

Image
Sarah Adams
Preifat James Prosser cyn iddo adael am Affganistan. [Llun: Sarah Adams]

“Naeth y ni ddweud ta-ta a rhoi hyg i’n gilydd, doeddwn ni ddim eisiau gadael fynd ohono fe.

“Felly, nes i jyst crio yn y car, mynd i fy mag i nôl hances, a roddodd e £30 yn fy mag ar gyfer petrol oherwydd doedd e ddim eisiau fi fod yn brin o arian petrol.”

‘Tair mis o hyfforddiant yn unig’

Ar fore Sul 27 Medi 2009, roedd James Prosser yn gyrru cerbyd milwrol yn ardal Musa Qaleh yn nhalaith Helmand, pan gyrrodd y cerbyd dros fom.

Bu farw Preifat James Prosser 63 diwrnod ar ôl cyrraedd Affganistan.

Image
NS4C
Sarah Adams, mam Preifat James Prosser, rhannu ei phrofiad o golli ei mab a fu farw yn y rhyfel yn Affganistan. [Llun: Wildflame]

Er gobeithion ei fam y byddai’n dychwelyd i Gymru, bu farw yng Nghamp Bastion.

“’Naeth e gael tair mis o hyfforddiant yn unig, i baratoi milwr preifat newydd i fynd i ryfel.”

‘Beth oedd gwerth y bywydau yna gafodd eu colli?’

Bu farw 457 o Brydeinwyr yn Affganistan, gan gynnwys 32 o Gymru.

Yn ystod y rhaglen 9/11: Diwrnod Wnaeth Newid Fy Mywyd, dywedodd y gwleidydd a’r cyn-newyddiadurwr, Rhun ap Iorwerth: “Mae’n anodd rhoi mewn geiriau sut beth ydy siarad efo mam sydd ‘di colli mab.

“Mae rhywun yn gofyn, i be’? Bechgyn o Gymru mor bell o adre’ yn gwneud beth maen nhw, wrth gwrs, yn meddwl oedd yn iawn.

“Ond mae rhaid i rywun ofyn – pam? A be’ oedd gwerth y bywydau yna gafodd eu colli?”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.