Teithwyr o Gymru i gael defnyddio profion PCR preifat
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd teithwyr o Gymru yn cael defnyddio profion PCR gan gwmnïau preifat wrth iddynt ddychwelyd o wledydd tramor.
Ar hyn o bryd, mae pobl sy’n byw yng Nghymru yn gorfod prynu prawf gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), sydd yn fwy costus.
Mae’r rheolau yma yn wahanol i bobl sy’n byw mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, fel Lloegr, lle mae modd i bobl brynu profion oddi wrth ddarparwyr preifat.
O 21 Medi ymlaen, fe fydd modd i bobl yng Nghymru archebu profion gyda darparwyr sector preifat yn ogystal â phrofion y GIG.
Daw'r newid wrth i fesurau newydd gael eu cyflwyno a fydd yn plismona profion PCR preifat.
Mae pryderon eisoes wedi eu codi am eu dibynadwyedd.
Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi nad oedd canlyniadau'r profion hynny yn cael eu cofrestru’n gywir, gan wneud hi’n anodd olrhain pobl sydd wedi’u heintio.
Dydd Gwener, fe wnaeth Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd nodi nad oedd y farchnad profion PCR yn cael ei reoleiddio’n ddigonol.
Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd y farchnad yn cael ei phlismona’n fwy trylwyr o ganlyniad, a bydd canllawiau gwell yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Wrth gyhoeddi’r newid i reolau yng Nghymru, dywedodd y Gweinidog Iechyd ei bod yn “croesawu’r cynnydd a wnaed i fynd i’r afael â’r pryderon sylweddol y gwnaethom eu codi gyda Llywodraeth y DU”.
"Rwyf hefyd yn disgwyl gweld gwelliannau pellach yn dilyn cyhoeddi adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd a bydd derbyn a gweithredu’r argymhellion yn gwella canlyniadau ymhellach.
"Rydym yn parhau i gynghori’n gryf, oherwydd y risg o ddal y coronafeirws, yn enwedig amrywiolion newydd ac sy’n dod i’r amlwg o’r feirws na fydd brechlynnau o bosibl yn cael effaith arnynt, na ddylai pobl deithio dramor oni bai bod y daith yn hanfodol."