Newyddion S4C

Saith marathon mewn saith diwrnod o amgylch arfordir Sir Benfro

12/09/2021
NS4C

Mae pedwar o ddynion ifanc yn dechrau ar her a hanner ddydd Sul wrth iddyn nhw geisio cwblhau saith marathon mewn saith diwrnod - a hynny o amgylch arfordir Sir Benfro.

Mae’r pedwar, sy’n 25 oed ac yn hanu o ardaloedd Rhydychen a Reading, eisoes wedi codi £54,000 ar gyfer elusen iechyd meddwl.

Mae CALM (Campaign Against Living Miserably) yn elusen sy’n cynnig gwasanaethau iechyd meddwl ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad, yn enwedig ymhlith dynion ifanc.

Bydd Rufus McGrath yn cwblhau her ‘Conquer the Coast’ gyda thri o ffrindiau o’i blentyndod, Geordie Wainwright, Sam Lebus a Jamie Prowse.

Dywedodd Rufus wrth Newyddion S4C fod dewis ymgyrch i’w chefnogi ar gyfer yr her yn benderfyniad hawdd.

“Mae’r drafodaeth am iechyd meddwl wedi datblygu cymaint, ond mae’n parhau’n anodd i fod yn fregus o flaen ffrindiau a theulu”, meddai.

“Roedd rhaid ystyried beth fyddai’n uno’r pedwar ohonom...yr hyn oedd yn ein huno oedd iechyd meddwl”.

Mae llwybr arfordir Sir Benfro yn 184 o filltiroedd o hyd, sy’n cwmpasu taith o Landudoch yng ngogledd y sir i Amroth yn y de.

Roedd Sir Benfro yn lleoliad amlwg ar gyfer yr her, yn ôl Rufus. 

Dywedodd: “Mae dau ohonom wedi bod yn mynd i Drefdraeth yn Sir Benfro yn gyson.

“Mae’r llwybr ei hun yn rhannu’n berffaith i saith marathon”, ychwanegodd.

Dywedodd Rufus fod yr ymateb wedi bod yn “anhygoel” hyd yma ac mae’n annog pobl yr ardal i ymuno mewn gwahanol gymalau o’r her os ydyn nhw’n dymuno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.