Newyddion S4C

Emma Raducanu yn ennill Pencampwriaeth Tenis Agored yr UDA

Sky News 12/09/2021
Emma Raducanu [Twitter]

Mae Emma Raducanu wedi dod i’r brig yn rownd derfynol y merched ym Mhencampwriaeth Tenis Agored yr Unol Daleithiau. 

Dyma'r tro cyntaf i ddynes o'r Deyrnas Unedig ennill y teitl ers 44 mlynedd, yn ôl Sky News.

Roedd Raducanu, sydd yn 18 oed ac yn dod o Bromley, yn wynebu Leylah Fernandez o Ganada.

Fe lwyddodd Raducanu i drechu Fernandez o 6-4, 6-3.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Llun: @EmmaRaducanu [Twitter]

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.