Porthmadog: Plismon 'heb dorri safonau ymddygiad' wrth arestio dyn mewn gardd

Richards Wms / HGC

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dyfarnu nad oedd plismon wedi torri unrhyw safonau ymddygiad yn ystod ymgais i arestio dyn mewn cartref ym Mhorthmadog yn 2023.

Roedd Mr Williams yn wynebu wyth o honiadau, ac fe honnir ei fod wedi torri Safonau Ymddygiad Proffesiynol yn ymwneud â defnyddio grym, awdurdod, parch a chwrteisi, ac ymddygiad anfrïol.

Dros bedwar diwrnod, clywodd y panel dystiolaeth gan Cwnstabl Williams a’r achwynydd Steven Clark, a gafodd ei arestio yn dilyn y digwyddiad mewn gardd eiddo yn ystâd Pensyflog ar 10 Mai 2023.

Dywedodd PC Williams yn ystod yr achos nad oedd wedi gwneud unrhyw beth o’i le ar ôl dyrnu Mr Clark naw gwaith wrth geisio cael rheolaeth arno er mwyn cwblhau’r arestiad.

Wrth roi dyfarniad ddydd Gwener ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn, dywedodd y Dirprwy Prif Gwnstabl Gareth Evans bod y panel disgyblu wedi gwrthod honiadau fod PC Williams wedi defnyddio grym “anaddas neu anghymesur".

“Daeth y panel i’r casgliad bod yr ergydion yn ddefnydd rhesymol o rym, dan yr amgylchiadau,” meddai.

Fe wnaeth y panel hefyd ddyfarnu bod defnydd PC Williams a’i gyd-weithiwr, PC Einir Williams, o chwistrell hylif i geisio tawelu Mr Clark yn "rhesymol a chymesur".

"Nid oes unrhyw beth sy’n cyrraedd trothwy torri safonau, ac felly mae’r achos ar ben,” ychwanegodd Mr Evans.

Rhagor i ddilyn.

Llun: Y Cwnstabl Richard Williams y tu allan i Lys y Goron Caernarfon yn ystod yr achos yn 2025.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.