Dirwy o £2,000 i ddyn am achosi difrod difrifol i safle ar ôl cyhoeddi fideos ar TikTok

SSSI

Mae dyn o Lerpwl wedi cael gorchymyn i dalu dros £2,000 ar ôl achosi difrod difrifol i safle gwarchodedig yn Sir Ddinbych. Cafodd fideos o’r digwyddiad eu cyhoeddi ar TikTok.

Mae Joseph Hodgson, sy’n 23 oed, yn un o dri dyn sydd wedi eu heuogfarnu o achosi difrod difrifol i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn y Berwyn.

Clywodd y llys fod saith cerbyd 4x4 wedi teithio o Lerpwl i Sir Ddinbych mewn confoi. Roedden nhw wedi gyrru i gefn gwlad lle nad oedd mynediad i gerbydau’n cael ei ganiatáu.

Cyfoeth Naturiol Cymru oedd wedi dwyn yr achos. Mae’r safle wedi’i warchod o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.

Roedd cyfrif TikTok sy'n gysylltiedig â’r grŵp yn dangos delweddau a fideos yn lleoli'r diffynyddion a'u cerbydau ar y safle.

Roedd y cynnwys yn eu dangos yn achosi difrod difrifol i gynefin y mawn a'r gors, gan adael traciau dwfn wrth fynd i mewn i'r gorgors.

Roedd tystiolaeth CNC yn dangos fod y cerbydau wedi gyrru dros 3km o dir preifat i gopa Moel Fferna, gan adael marciau teiars a difrod mewn cynefinoedd mawn a gorgors.

Mae Hodgson wedi cael Gorchymyn Ymddygiad Troseddol, sy'n ei wahardd rhag mynd i mewn i SoDdGA y Berwyn am dair blynedd.

Difrod yn amlwg

Dywedodd CNC fod y difrod yn amlwg ac yn bosibl ei osgoi oherwydd maint y cerbydau a bregusrwydd y cynefin.

Roedd y fideos ar TikTok yn dangos dau gerbyd, gan gynnwys un a oedd yn perthyn i Hodgson, yn mynd yn sownd ac yn cael eu tynnu allan, gan achosi difrod pellach i'r amgylchedd gwarchodedig.

Dywedodd Kirsty Roberts ar ran CNC: “Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig wedi’u dynodi a’u gwarchod oherwydd eu bod yn cefnogi bywyd gwyllt prin a bregus pwysicaf y DU. Mae gorgorsydd yn arbennig o sensitif.

“Mae gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd hefyd yn effeithio ar ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n rheoli’r tirweddau gwaith hyn sy’n eiddo preifat, gan amharu ar weithrediadau ffermio, cynyddu costau, a thanseilio ymdrechion cadwraeth hirdymor.”

Ychwanegodd CNC fod unrhyw weithgarwch, gan gynnwys defnydd heb awdurdod o gerbydau, sy’n achosi difrod i SoDdGA yn drosedd o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.

Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.