Pa brifysgol yw'r orau yng Nghymru yn ôl y Good University Guide?

Myfyrwyr yn graddio

Prifysgol Caerdydd yw'r orau yng Nghymru, yn ôl y rhifyn diweddaraf o'r Good University Guide gan The Times a'r Sunday Times, gafodd ei gyhoeddi ddydd Gwener.

Gorffennodd y sefydliad addysgol hanesyddol o'r brifddinas yn y 32ed safle - pedwar yn is na'r llynedd - yn y rhestr detholion llawn, sy'n cynnwys prifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae'r canllaw ar gyfer 2027 yn gosod Prifysgol Abertawe yn 38ed, un i lawr o'i gymharu â'r rhestr ddiwethaf.

Nesaf mae Prifysgol Bangor, sydd wedi codi chwech i'r 53eg safle. Mae'n goddiweddyd Prifysgol Aberystwyth, wnaeth syrthio 21 lle i orffen yn 63ydd.

Fe lwyddodd Prifysgol De Cymru i godi saith i'r 75ed safle, gyda Phrifysgol Met Caerdydd yn cwympo saith i orffen yn 78ed.

Fe orffennodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ddau safle'n uwch na'r llynedd yn 97ed - ac roedd cynnydd hefyd yng nghanlyniad Prifysgol Wrecsam wrth iddi godi wyth i safle 114.

Mae'r Good University Guide yn mesur ansawdd prifysgolion gan ddefnyddio sawl llinyn mesur, sy'n cael eu cyfuno i greu sgôr cyffredinol.

Ymhlith y meysydd dan sylw mae safon dysgu, profiad myfyrwyr, safon ymchwil, gobeithion myfyrwyr a'r canran o fyfyrwyr sy'n cael graddau dosbarth cyntaf neu 2:1.

Er nad ydy hi ymhlith y detholion uchaf ar y cyfan, mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn un o'r perfformwyr gorau drwy gydol y DU o ran safon dysgu (4ydd safle) a phrofiad myfyrwyr (5ed safle). Fe berfformiodd Prifysgol Aberystwyth yn gryf yn y categorïau hynny hefyd, gan orffen yn yr 20 uchaf.

Rhydychen a Chaergrawnt allan o'r tri uchaf

Prifysgol St Andrews yn yr Alban sydd ar frig y rhestr, gyda'r London School of Economics (LSE) yn ail a Choleg Imperial Llundain yn drydydd.

Mae'n golygu fod prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt - y ddau sefydliad mwyaf adnabyddus yn draddodiadol - ill dau allan o'r tri uchaf am ddim ond yr eilwaith yn hanes y canllaw, sy'n cael ei gyhoeddi ers 33 o flynyddoedd.

Image
Tabl o'r 10 Uchaf a'r Prifysgolion Cymreig, Good University Guide 2027
Y 10 uchaf - a pherfformiad y prifysgolion Cymreig.

Dywedodd Zoe Thomas, awdur y rhestr eleni, fod St Andrews yn cynnig "profiad neilltuol i israddedigion" sy'n ennyn "cyfraddau boddhad arbennig".

Ychwanegodd fod perfformiad Caergrawnt a Rhydychen wedi cael ei lethu gan adborth "llugoer" gan israddedigion mewn arolygon - ond fod prifysgolion Imperial, LSE a St Andrews wedi cyrraedd y "man delfrydol" gan gynnig addysg o safon sydd wedi ei seilio ar ymchwil ac yn cael derbyniad da gan fyfyrwyr.

Prif lun: Joe Giddens/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.