Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

09/09/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar fore Iau, 9 Medi, o Gymru a thu hwnt.

Priti Patel am i gychod sy'n cludo mudwyr gael eu troi yn ôl i Ffrainc 

Mae Gweinidog Cartref y DU, Priti Patel, wedi awdurdodi Llu Ffiniau’r DU i droi cychod sy'n cludo mudwyr yn ôl i'w hatal rhag cyrraedd y DU.

Fe fydd disgwyl i swyddogion y ffin roi gwybod i wylwyr y glannau Ffrainc am bresenoldeb mudwyr yn eu dyfroedd tiriogaethol, gan roi'r baich arnyn nhw i’w hachub.

Cleifion o Gymru wedi wynebu 'anghyfiawnder' wrth dderbyn gofal yn Lloegr 

Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr drin wyth o gleifion o Gymru yn “anghyfiawn” trwy fethu â monitro eu triniaeth pan oedden nhw’n derbyn gofal yn Lloegr, yn ôl darganfyddiadau gan yr ombwdsmon.

Ni wnaeth y bwrdd eu cynnwys yn ystadegau Cymru gyfan, felly, pan ddaeth hi i'r amlwg eu bod wedi aros yn rhy hir am driniaeth, ni chafodd hynny ei amlygu yn ffigyrau Cymru.

Parafeddyg yn rhybuddio bod ‘pob diwrnod wedi bod yn ddiwrnod prysur’ dros 2021

Mae parafeddyg o Ynys Môn wedi rhybuddio fod “pob diwrnod wedi bod yn ddiwrnod prysur” yn ystod 2021. 

Ar ddiwrnod y Gwasanaethau Brys dywedodd Aled Thomas o'r gwasanaeth fod ei swydd hefyd wedi “mynd yn anoddach” dros y flwyddyn a hanner diwethaf. 

Dros 400 o siopau wedi cau yn chwe mis cyntaf 2021

Fe wnaeth 424 o siopau yng Nghymru gau dros chwe mis cyntaf 2021 yn ôl ymchwil newydd gan gwmni cyfrifwyr PwC.

Yn ôl Carys Davies, perchennog siop ddillad So Chic ym Mangor, dyw’r ffigyrau yma ddim yn syndod. 

Y Gymdeithas Bêl-droed a’r Urdd yn ceisio hybu diddordeb yr ifanc mewn pêl-droed

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’r Urdd wedi cyhoeddi partneriaeth newydd i geisio cael mwy o bobl ifanc i chwarae pêl-droed a chefnogi’r tîm cenedlaethol.

Mae gan ymddiriedolaeth y gymdeithas gynllun hefyd i gynyddu’r nifer o ganolfannau ‘Huddle’ sydd yng Nghymru i 100 erbyn 2024. 

Cofiwch ddilyn y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.