Newyddion S4C

Dros 400 o siopau wedi cau yn chwe mis cyntaf 2021

09/09/2021
Siop wag ar stryd fawr

Dros chwe mis cyntaf 2021 fe wnaeth 424 o siopau yng Nghymru gau yn ôl ymchwil newydd gan gwmni cyfrifwyr PwC.

Mae’r ffigyrau yn datgelu bod siopau yng Nghymru wedi cau ar gyfradd cyflymach o’i gymharu â gweddill Prydain.

Yn ôl Carys Davies, perchennog siop ddillad So Chic ym Mangor, dyw’r ffigyrau yma ddim yn syndod.

“Roedd pethau yn eithaf anodd cyn y pandemig. Mi oedd cwsmeriaid ar y stryd fawr wedi gostwng yn ofnadwy. Roedd y pandemig jysd yn heolan yn yr arch.”

Mae Mrs Davies wedi gorfod addasu ei busnes ac mae defnyddio’r we a chyfryngau cymdeithasol wedi achub ei busnes meddai.

“Y peth cyntaf neshi oedd defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, mae Faecbook wedi bod yn anhygoel i mi. Mae o wedi helpu fi roi'r busnes allan yna, gadel i bobl wybod be sydd gennai yn y siop, a ‘ma hynny wedi denu mwy o bobl i ddod i siopa acw.

“Doedd yna ddim llawer o opsiwn rili, roedd rhaid gwneud rhywbeth. Doedd eistedd yn nôl a gwneud dim ddim yn opsiwn."

'Angen cefnogaeth'

Roedd siopau ffasiwn, elusennau a banciau ymysg y mwyafrif sydd wedi cau, gan adael un o bob saith siop ar strydoedd mawr Cymru yn wag.

Mae Mrs Davies yn pryderu y gallai siopau gwag ar strydoedd gael effaith ar fusnesau eraill sy’n parhau i fod ar agor, ond mae hi’n hyderus na fydd cynnydd mewn siopau gwag yn niweidio ei siop hi’n uniongyrchol. 

“Mae o siŵr o gael rhywfaint o effaith, achos pam ti’n meddwl am fynd i siopa ti’n meddwl am fynd i ddwy neu dair siop ella. Mae’n anoddach i rheini sydd yn dechrau busnesau newydd sydd heb ddenu eu cwsmeriaid yn barod.”

“Mae angen cefnogaeth i fusnesau ac datblygu ein strydoedd mawr, fel bod rheswm i bobl ymweld,” ychwanegodd Mrs Davies.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn sicrhau bod £5m yn ychwanegol o fenthyciadau ar gael fel rhan o gynllun ‘Trawsnewid Trefi’ yn y flwyddyn ariannol, ac mae £60m mewn cyllid benthyciad eisoes wedi’i ddarparu i gefnogi adfywio canol trefi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.