Newyddion S4C

Cleifion o Gymru wedi wynebu 'anghyfiawnder' wrth dderbyn gofal yn Lloegr

North Wales Live 09/09/2021
Ysbyty Glan Clwyd

Fe wnaeth bwrdd iechyd drin wyth o gleifion o Gymru yn “anghyfiawn” trwy fethu â monitro eu triniaeth pan oedden nhw’n derbyn gofal yn Lloegr, yn ôl darganfyddiadau gan yr ombwdsmon.

Ni wnaeth y bwrdd eu cynnwys yn ystadegau Cymru gyfan, felly, pan ddaeth hi i'r amlwg eu bod wedi aros yn rhy hir am driniaeth, ni chafodd hynny ei amlygu yn ffigyrau Cymru.

Mewn adroddiad newydd, dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fod yr wyth claf o dan sylw, a oedd wedi bod yn aros am driniaethau prostad ym mis Awst 2019, wedi wynebu “anghyfiawnder” gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Ychwanegodd yr Ombwdsmon Nick Bennett y dylai'r bwrdd wneud iawn trwy gynnal "adolygiad niwed".

Mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn y canfyddiadau ac wedi ymddiheuro, yn ôl North Wales Live.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.