Priti Patel am i gychod sy'n cludo mudwyr gael eu troi yn ôl i Ffrainc
Mae Gweinidog Cartref y DU, Priti Patel, wedi awdurdodi Llu Ffiniau’r DU i droi cychod sy'n cludo mudwyr yn ôl i'w hatal rhag cyrraedd y DU.
Mae dros 1,500 o fudwyr wedi croesi Môr Udd mewn cychod yr wythnos hon.
Mae nifer o bapurau newydd yn adrodd y bydd swyddogion yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio tactegau “gwthio yn ôl” er mwyn troi'r cychod, mewn ymdrech i fynd i’r afael â niferoedd cynyddol o fudwyr.
Fe fydd disgwyl wedyn i swyddogion y ffin roi gwybod i wylwyr y glannau Ffrainc am bresenoldeb mudwyr yn eu dyfroedd tiriogaethol, gan roi'r baich arnyn nhw i’w hachub.
Mae awgrym mai dim ond mewn "amgylchiadau cyfyngedig iawn" y bydd tactegau o'r fath yn cael eu defnyddio, a hynny ar gyfer cychod mwy a chadarn, a dim ond pan mae’r amgylchiadau yn cael eu hystyried yn ddiogel, yn ôl Sky News.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Llywodraeth y DU