Newyddion S4C

Y Gymdeithas Bêl-droed a’r Urdd yn ceisio hybu diddordeb yr ifanc mewn pêl-droed

09/09/2021
Gemma Grainger

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’r Urdd wedi cyhoeddi partneriaeth newydd i geisio cael mwy o bobl ifanc i chwarae pêl-droed a chefnogi’r tîm cenedlaethol.

Bydd y bartneriaeth hefyd yn canolbwyntio ar ddenu mwy o ferched i chwarae’r gêm, gyda’r gymdeithas yn bwriadu cefnogi’r Urdd i ddarparu gweithgareddau pêl-droed fel rhan o ymgyrch newydd y mudiad, #FelMerch.  

Mae’r ymgyrch honno, a gafodd ei lansio ym mis Mehefin, yn ceisio ysbrydoli merched rhwng 14 a 25 i ymwneud â chwaraeon mewn amgylchedd diogel.

Mae gan ymddiriedolaeth y gymdeithas gynllun hefyd i gynyddu’r nifer o ganolfannau ‘Huddle’ sydd yng Nghymru i 100 erbyn 2024. Mae’r canolfannau hyn yn anelu i ddenu merched rhwng pump a 12 oed i chwarae pêl-droed am y tro cyntaf. 

‘Rhannu’r un weledigaeth’

Yn ôl Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis, mae perthynas yr Urdd a Chymdeithas Bêl-droed Cymru “wedi mynd o nerth i nerth.”

“Mae hi’n wych cael cydweithio er mwyn cynnig profiadau unigryw i’n haelodau.

“Rydym yn rhannu’r un weledigaeth, sef sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc Cymru yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn wythnosol. Mae hyn yn arbennig o wir am ferched ac rydym yn awyddus i leihau’r rhwystrau i gymryd rhan, a dyma’r rheswm lansiwyd ymgyrch #FelMerch gennym yn ddiweddar.

“Edrychwn ymlaen at wahodd Cymdeithas Pêl-droed Cymru i rai o sesiynau #FelMerch a’n helpu i ysbrydoli cenhedlaeth rhag rhoi’r gorau i chwaraeon, a chydweithio er mwyn cynnig profiadau unigryw i’n haelodau.”

Mae Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gobeithio bydd y bartneriaeth yn creu cyfleoedd newydd i blant yng Nghymru: “Fe fydd y bartneriaeth yn cynyddu’r cyfleodd i blant yng Nghymru i chwarae pêl-droed ac yn creu cysylltiad rhwng aelodau o’r Urdd a’r timau cenedlaethol trwy drefnu tripiau i gemau Cymru a chynnwys unigryw gyda’n chwaraewyr ar gyfer sianelu cymdeithasol a chylchgronau’r Urdd.

“Trwy chwaraewyr fel Aaron Ramsey a Natasha Harding, mae gan yr Urdd hanes llwyddiannus o ran datblygu sêr y dyfodol ac rydym yn gobeithio gall y bartneriaeth helpu parhau hyn,” ychwanegodd Mr Hughes.

Yn y dyfodol bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn defnyddio gwersylloedd yr Urdd ar gyfer cynadleddau’r wasg, gan gynnwys cyhoeddi’r garfan ar gyfer gemau agoriadol Cymru yn ymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd Merched FIFA 2023, a gynhelir yn Llangrannog.

Bydd hefyd gwersylloedd pêl-droed haf ar gyfer merched a bechgyn yn cael eu cynnal yng nghanolfannau’r Urdd yn ystod Pencampwriaeth UEFA EURO Merched 2022, trafnidiaeth ar gyfer ysgolion a chlybiau i gefnogi tîm merched Cymru yn eu gemau cartref, a chynnwys unigryw ar sianelau cymdeithasol a chylchgronau’r Urdd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.