Newyddion S4C

Cip olwg ar benawdau'r bore

02/09/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar fore Iau, 2 Medi, o Gymru a thu hwnt.

Cyhuddo'r llywodraeth o 'dro pedol' wrth i ysgolion ailagor yng Nghymru

Mae miloedd o ddisgyblion ar draws y wlad yn dychwelyd i'r ysgol ddydd Iau, gyda nifer o'r mesurau i atal lledaeniad Covid-19 wedi'u llacio ers y tymor diwethaf.  Ond, wrth i ysgolion ailagor eu drysau, mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyhuddo o gyflawni “tro pedol aruthrol” dros y defnydd o beiriannau oson dadleuol mewn ysgolion.

Dau frechiad bron yn 'haneru'r risg' o ddatblygu Covid hir - WalesOnline

Mae dau ddos o frechlyn coronafeirws bron yn haneru'r tebygolrwydd o ddatblygu Covid hir ymhlith oedolion sydd wedi eu heintio gyda Covid-19, yn ôl astudiaeth newydd.  Dywedodd ymchwilwyr yng Ngholeg y Brenin, Llundain, fod gorfod mynd am driniaeth ysbyty 73% yn llai tebygol, a bod y tebygolrwydd o ddatblygu symptomau trwm bron i dreian (31%) yn llai ar gyfer y sawl sydd wedi eu brechu'n llawn.

Dominic Raab wedi hedfan i Qatar i drafod y sefyllfa yn Affganistan - Sky News

Mae Dominic Raab wedi hedfan i Qatar ar gyfer trafodaethau am gludo dinasyddion Prydain a chyfieithwyr o Affganistan wedi i'r Taliban gymryd grym yno.  Fe adawodd yr Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig oriau wedi iddo wynebu cwestiynau ynghylch y digwyddiadau yn Affganistan gan ASau ar y Pwyllgor Dethol Materion Tramor yn San Steffan.

Goruchaf Lys yn pleidleisio i gadw deddf erthylu ddadleuol yn Texas - The Guardian

Mae'r Goruchaf Lys yn yr UDA wedi pleidleisio o drwch blewyn i gadw deddf ddadleuol ar erthylu mewn grym yn nhalaith Texas - ail dalaith fwyaf y wlad.  Cafodd y ddeddf ei phasio ym mis Mai yn y dalaith, ac mae hi'n atal erthyliadau mewn achosion pan y gall meddygon ddarganfod curiadau cynnar y galon, sydd fel arfer ar ôl cyfnod o chwe wythnos o feichiogrwydd.

Cristiano Ronaldo yn creu hanes ar y cae pêl-droed - The Sun

Mae Cristiano Ronaldo wedi creu hanes ar y cae pêl-droed nos Fercher.  Bellach y seren o Bortiwgal yw'r dyn sydd wedi sgorio'r nifer fwyaf erioed o goliau mewn gemau rhyngwladol.  Sicrhaodd Ronaldo fuddugoliaeth o 2-1 i'w wlad mewn gêm yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Iwerddon.

Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.