Newyddion S4C

Dau frechiad bron yn 'haneru'r risg' o ddatblygu Covid hir

The Independent 02/09/2021
AstraZeneca

Mae dau ddos o frechlyn coronafeirws bron yn haneru'r tebygolrwydd o ddatblygu Covid hir ymhlith oedolion sydd wedi eu heintio gyda Covid-19, yn ôl astudiaeth newydd.

Dywedodd ymchwilwyr yng Ngholeg y Brenin, Llundain, fod gorfod mynd am driniaeth ysbyty 73% yn llai tebygol, a bod y tebygolrwydd o ddatblygu symptomau trwm bron i dreian (31%) yn llai ar gyfer y sawl sydd wedi eu brechu'n llawn.

Fe astudiodd y tîm ddata gan dros ddwy filiwn o bobl yn cofnodi eu symptomau, profion a statws brechu ar ap Astudiaeth Symptomau Covid yn y DU rhwng 8 Rhagfyr a 4 Gorffennaf eleni.

Cofnododd 6,030 o ddefnyddwyr brawf positif am Covid-19 o leiaf 14 diwrnod wedi eu brechiad cyntaf ond cyn eu hail ddos, tra bo 2,370 wedi cofnodi prawf positif o leiaf saith diwrnod wedi eu hail ddos.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.