Newyddion S4C

Goruchaf Lys yn pleidleisio i gadw deddf erthylu ddadleuol yn Texas

The Guardian 02/09/2021
Goruchaf Lys UDA

Mae'r Goruchaf Lys yn yr UDA wedi pleidleisio o drwch blewyn i gadw deddf ddadleuol ar erthylu mewn grym yn nhalaith Texas - ail dalaith fwyaf y wlad.

Cafodd y ddeddf ei phasio ym mis Mai yn y dalaith, ac mae hi'n atal erthyliadau mewn achosion pan y gall meddygon ddarganfod curiadau cynnar y galon, sydd fel arfer ar ôl cyfnod o chwe wythnos o feichiogrwydd.

Fel arfer nid yw'r mwyafrif o fenywod yn ymwybodol o'u beichiogrwydd wedi cyfnod mor gynnar ac felly canlyniad y ddeddf ydy gwahardd erthyliadau yn y mwyafrif o achosion.

Pleidleisiodd aelodau'r Goruchaf Lys o 5-4 pleidlais yn erbyn apêl oedd yn galw am ddiddymu'r ddeddf ddadleuol newydd, adrodda The Guardian.

Mae Texas ymysg y taleithiau sydd gyda'r deddfau erthylu mwyaf llym yn yr UDA yn hanesyddol.

Darllewch y stori'n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.