Cristiano Ronaldo yn creu hanes ar y cae pêl-droed

Mae Cristiano Ronaldo wedi creu hanes ar y cae pêl-droed nos Fercher.
Bellach y seren o Bortiwgal yw'r dyn sydd wedi sgorio'r nifer fwyaf erioed o goliau mewn gemau rhyngwladol.
Sicrhaodd Ronaldo fuddugoliaeth o 2-1 i'w wlad mewn gêm yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Iwerddon.
Llwyddodd Ronaldo, sydd newydd ddychwelyd i Manchester United, i sgorio goliau drwy ddau beniad wedi 89 munud a 96 munud, gan guro record flaenorol Ali Daei o 109 o goliau, a mynd ar y blaen i 111.
Am 89 munud, fe lwyddodd Iwerddon i synnu nifer a chadw ar y blaen diolch i beniad gan John Egan, cyn i noson i'w anghofio i Ronaldo droi'n achlysur hanesyddol iddo, yn ôl The Sun.
Darllenwch yr hanes yma.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans