Dominic Raab wedi hedfan i Qatar i drafod y sefyllfa yn Affganistan
Mae Dominic Raab wedi hedfan i Qatar ar gyfer trafodaethau am gludo dinasyddion Prydain a chyfieithwyr o Affganistan wedi i'r Taliban gymryd grym yno.
Fe adawodd yr Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig oriau wedi iddo wynebu cwestiynau ynghylch y digwyddiadau yn Affganistan gan ASau ar y Pwyllgor Dethol Materion Tramor yn San Steffan.
Dywedodd Mr Raab nad oedd yn "hyderus gydag unrhyw fanylder" am niferoedd yr unigolion cymwys oedd gyda'r hawl i ddod i'r DU ac oedd yn parhau i fod yn Affganistan - ond dywedodd fod y nifer o ddinasyddion Prydeinig oedd ar ôl yn y "cannoedd isel".
Yn y cyfamser, mae disgwyl i'r Prif Weinidog Boris Johnson deithio i dde-ddwyrain Lloegr i ymweld â'r milwyr a gynorthwyodd gyda'r gwaith o adael Kabul, yn ôl Sky News.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Rhif 10 (drwy Flickr)