Arestio dyn ifanc ar ôl i bump gael eu cludo i ysbyty wedi gwrthdrawiad

A4119

Mae dyn wedi ei arestio ar ôl i bump o bobl gael eu cludo i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad ger Tonypandy yn Rhondda Cynon Taf fore Llun.

Toc cyn 11:25, cafodd Heddlu De Cymru wybod fod gwrthdrawiad rhwng sawl cerbyd ar ffordd yr A4119 yn Nhrewiliam. 

Mae gan un o'r pump sydd yn yr ysbyty anafiadau allai beryglu ei fywyd, ac mae anafiadau un arall yn rhai allai newid ei fywyd. 

Mae dyn 19 oed wedi ei arestio am amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus. Mae e hefyd yn cael triniaeth, ond nid yw'n ymddangos fod ei fywyd mewn perygl . 

Roedd y ffordd ynghau am oriau wedi'r gwrthdrawiad. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.