Arestio dyn wedi i feiciwr modur yn cludo gwaed gael ei anafu mewn gwrthdrawiad

A48

Mae dyn wedi ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gâr lle cafodd beiciwr modur oedd yn cludo gwaed anafiadau all beryglu ei fywyd. 

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i ffordd yr A48 tua’r gorllewin rhwng troad Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a chyffordd Llanddarog, toc cyn 18.00 nos Lun. 

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur Honda 750 Liveried, oedd yn y broses o gludo gwaed, ac Audi A3 lliw du.

Mae gyrrwr yr Audi, dyn 26 oed, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n ddiofal. Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa. 

Mae’r beiciwr modur yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal neu sydd â delweddau dash-cam i gysylltu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod DP-20251229-254.

Dyma'r ail wrthdrawiad yn ymwneud â beic modur cludo gwaed yn y rhanbarth eleni.

Fis Gorffennaf, cafodd beiciwr modur ei ladd ar ffordd yr A478 ger Blaenffos yn Sir Benfro tra'n cludo gwaed. Roedd Timothy Minett, yn 78 oed ac yn feiciwr modur ar gyfer elusen Beiciau Gwaed Cymru. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.