Apêl am wybodaeth 13 mlynedd ers diflaniad dyn o Drecelyn
Mae Heddlu Gwent wedi apelio o'r newydd am fanylion ynghylch diflaniad dyn o Drecelyn, Caerffili union 13 mlynedd yn ôl.
Roedd Kyle Vaughan yn 24 oed ar y pryd, a chafodd ei weld ddiwethaf tua 23:45 ar 30 Rhagfyr 2012.
Roedd y car yr oedd yn ei yrru, sef Peugeot 306 lliw arian, mewn gwrthdrawiad un cerbyd ar ffordd yr A467 rhwng Rhisca a Crosskeys.
Yn wreiddiol cynhalioedd yr heddlu ymchwiliad i'w ddiflaniad, ac yna cafodd ymchwiliad i lofruddiaeth ei gynnal, gydag wyth o bobl yn cael eu harestio.
Cafodd yr wyth eu rhyddhau yn ddiweddarach yn ddigyhuddiad.
Wrth apelio o'r newydd am wybodaeth, dywedodd y Ditectif Arolygydd Rhys Williams: "Byddai Kyle yn 37 oed erbyn hyn, ac rydym eisiau rhoi atebion i'w deulu.
“Rydym yn llwyr gydnabod effaith diflaniad Kyle ar ei deulu, ac rydym yn credu'n gryf fod gan rywun ddarn allweddol o wybodaeth a allai ein cynorthwyo gyda'n hymchwiliad.
"Os taw chi yw'r person hwnnw, yna byddem yn eich hannog i gysylltu â ni.
"Mae ditectifs o'n prif dîm ymchwilio yn gyfrifol am adolygu pob gronyn o wybodaeth ynghylch diflaniad Kyle."
Mae modd cysylltu â Heddlu Gwent drwy ffonio 101 neu drwy gysylltu ar-lein gan ddyfynnu'r rhif 397 30/12/12.