Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd: Pwy yw rhai o'r Cymry?

rhestr anrhydeddau 2025

Mae Jonathan Davies ymysg y Cymry sydd ar restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2025 eleni. 

Fe gafodd Jonathan Davies, sydd yn Llywydd Elusen Ganser Felindre, ei anrhydeddu â CBE am ei wasanaeth i Bobl â Chanser ac i Ddarlledu.

Mae ‘e wedi bod yn cefnogi’r elusen oherwydd trasiedi deuluol.

Cafodd ei wraig, Karen, ddiagnosis o ganser a bu farw ym 1997.

Fe enillodd 37 o gapiau dros Gymru yn rygbi'r undeb, a naw dros ei wlad yn rygbi'r gynghrair.

Mae hefyd yn ddarlledwr ac yn sylwebydd rygbi. 

Image
Meg Jones
Megan Jones

Mae Megan Jones wedi ei anrhydeddu ag MBE am ei gwasanaeth ym maes  rygbi. 

Cafodd ei magu yng Nghaerdydd, gan chwarae rygbi i dimau Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf a thîm merched dan 15 Gleision Caerdydd.

Ond roedd ei llwybr i gyrraedd y lefel uchaf yn y byd rygbi yn golygu ei bod hi'n teimlo'r angen i deithio dros y bont a chwarae yn Lloegr.

Mae hi wedi cynrychioli Lloegr yn rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd ddwywaith, ac yn aelod o'r tîm enillodd y bencampwriaeth yn 2025. 

Ond nid yw ei thaith wedi bod yn hawdd. Bu farw tad Megan, Simon fis Awst y llynedd, lai na saith mis ers iddo gael diagnosis o ganser yr ysgyfaint. 

Bedwar mis yn ddiweddarach roedd ei mam, Paula wedi marw hefyd.

Mae Dr Eleri Lloyd Davies hefyd wedi ei anrhydeddu ag MBE am ei gwasanaethau i ofal y fron. Mae Eleri Lloyd Davies yn Ymgynghorydd mewn Llawfeddygaeth Oncoplastig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
 
Mae hefyd wedi ymddangos ar raglen deledu Saving Lives in Cardiff wrth iddi drin cleifion canser y fron. 
 
Image
gareth-morgans.jpg
Gareth Morgans
Mae Gareth Morgans o Sir Gâr wedi ei anrhydeddu ag MBE am ei wasanaethau i Addysg ac i Elusen Dolen Cymru Lesotho. 
 
Mae'n gyn-Gyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Gâr ac yn gyfarwyddwyr anweithredol bwrdd arolygu Estyn.
 

Yn derbyn CBE, mae Jeff Edwards o Aberfan, un o'r disgyblion a gafodd ei dynnu o weddillion Ysgol Pantglas adeg trychineb 1966. Mae'n cael ei gydnabod am ei waith elusennol, am helpu dioddefwyr trychinebau ac am ei waith i'r gymuned yn Aberfan.  

Mae Stephen Perks o Sir Gâr wedi ei anrhydeddu ag MBE am ei wasanaethau i Athletau.
 
Mae Susan Elisabeth Flood o'r Bala yng Ngwynedd yn ffotografydd, yn creu ffilmiau, yn awdur ac anturiaethwr. Mae wedi ei hanrydeddu ag OBE am ei gwasanaethau i Wyddoniaeth ac i'r Byd Naturiol. 
 
Mae Dr Mark Owen Williams o Sir Ddinbych wedi ei anrhydeddu ag OBE am ei wasanaethau i brostheteg.
 
Yn Brif Weithredwr Cymdeithas Pysgotwyr Cymru, mae Timothy James Lloyd Evans o Aberteifi wedi ei anrhydeddu ag MBE am ei wasanaethau i bysgota.
 
Mae Christopher Cynlais Jones o dref Porth yn Rhondda Cynon Taf yn Swyddog Datblygu Rygbi Uwch Gwirfoddol gyda Ysgolion Rygbi y Rhondda. Mae e wedi ei anrhydeddu ag MBE am ei wasanaethau i'r gymuned yn y Rhondda. 
 
Mae Andrew Lynn Mathias o Abertawe yn Bennaeth Cyfathrebu ar gyfer yr Economi a Seilwaith gyda Llywodraeth Cymru. Mae wedi ei anrhydeddu ag MBE am ei wasanaeth i'r gymuned LHDT+ yng Nghymru. 
 
Ymhlith yr enwogion sydd wedi eu hanrhydeddu, mae'r cyflwynydd Gabby Logan, merch cyn chwaraewr a chyn reolwr Tîm Pêl-droed Cymru, Terry Yorath, yn ogystal â'r actor Idris Elba a'r danswyr iâ,  Jayne Torvill a Christopher Dean. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.