'Colled enbyd': Teyrnged i dad o Gaerdydd a fu farw Ddydd San Steffan

Colm Boston

Mae teulu tad o Gaerdydd a fu farw Ddydd San Steffan wedi ymosodiad honedig yn gynharach yr wythnos honno, wedi rhoi teyrnged iddo. 

Bu farw Colm Marcus Boston, 37 oed o’r Mynydd Bychan, yn Ysbyty Athrofaol Cymru, bedwar diwrnod wedi'r digwyddiad ar Stryd Pentyrch, Cathays ar 22 Rhagfyr. 

Yn eu teyrnged, dywedodd ei deulu eu bod wedi eu llorio. 

“Roedd Colm yn dad, yn fab, yn gefnder ac yn ffrind annwyl iawn i nifer o bobl yng Nghaerdydd a thu hwnt,” meddai’r datganiad. 

"Roedd Colm yn byw bywyd cymhleth, gydag uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, ond roedd yn angerddol yn ei gariad at y bobl yn ei fywyd ac roedd yn eithriadol o bwysig i sawl un. Mae ei golled wedi cael effaith ddwys ar bawb a oedd yn ei adnabod.

"Yn dilyn y digwyddiad ddydd Llun, 22 Rhagfyr, bu farw Colm yn yr ysbyty ar Ddydd San Steffan. Rydym yn cael ein cefnogi gan Swyddog Cyswllt Teuluol ac rydym yn ddiolchgar am y tosturi y mae pobl wedi'i ddangos i ni yn ystod yr amser eithriadol o anodd hwn.

"Hoffem fynegi ein gwerthfawrogiad diffuant i'r nyrsys a'r meddygon yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a oedd yn arbennig yn eu gofal, eu proffesiynoldeb a'u cefnogaeth ddi-ildio i Colm a'n teulu. Ni chaiff eu caredigrwydd a'u hymroddiad fyth ei anghofio.

"Diolch i bawb am eu cefnogaeth, eu parch a'u dealltwriaeth wrth i ni ddod i delerau â'r golled enbyd hon."

Apêl

Cafodd Heddlu’r De eu galw i adroddiad am ymosodiad ar Stryd Pentyrch am tua 18:15 ar 22 Rhagfyr.

Mae tri dyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac maen nhw wedi cael eu rhyddhau wrth i'r ymchwiliad barhau. 

Mae'r heddlu yn dal i apelio ar bobl a all fod o gymorth i'w hymchwiliad i gysylltu â nhw.

Maen nhw’n awyddus i dderbyn lluniau teledu cylch cyfyng a chamerâu dashcam o Heol Maindy, Stryd Pentyrch, Heol yr Eglwys Newydd, a Theras Cathays, rhwng 16:00 a 18:30 ar 22 Rhagfyr.

Mae modd cysylltu â’r llu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 2500404113.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.