'Awdur naturiol a chynnil': Teyrngedau i Eirlys Wyn Jones
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r awdur o Eifionydd, Eirlys Wyn Jones a fu farw yn 82 oed.
Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, 'Pwy Ti'n Feddwl Wyt Ti?' yn 2019 ar ôl iddi gael ei hysbrydoli gan feirniadaeth dda yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018.
Yn 76 oed ar y pryd, fe benderfynodd Eirlys ysgrifennu’r nofel honno wedi iddi ymddeol.
Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei hwyres Lydia McAteer ar ran ei hwyrion ac wyresau eraill bod eu Nain yn "ysbrydoliaeth i ni gyd."
"Doedd oed ddim yn rhwystr iddi, na salwch chwaith i raddau yn hwyrach ymlaen," meddai wrth Newyddion S4C.
"Daliodd ati i ymgymeryd â sialensau creadigol newydd a’i meistroli, a hyd yn oed dysgu chwarae’r delyn yn llwyddiannus er mwyn ymarfer ei bysedd rhag effeithiau’r MND."
Fel dynes ifanc, fe dreuliodd gyfnod yn gweithio fel swyddog treth, cyn magu ei phlant a gweithio ar fferm y teulu gyda’i gŵr, Griff yn Chwilog.
Ailafaelodd yn ei gyrfa yn y swyddfa dreth yn ei 50au, cyn iddi droi at ysgrifennu nofelau.
'Cyffwrdd y galon'
Mewn teyrnged iddi, dywedodd Nia Roberts Golygydd Gwasg Carreg Gwalch: "Roedd yn fraint cael cydweithio ag Eirlys Wyn Jones ar ei thair nofel – roedd hi’n awdur naturiol, er na ddechreuodd sgwennu nes iddi ymddeol, a’i harddull gynnil yn cyffwrdd y galon.
"Yn ogystal â sgwennu roedd hi’n artist a chrefftwraig dalentog – ei gwaith pwytho hi sydd ar gloriau ei dwy nofel olaf – ac roedd ei brwdfrydedd at bopeth roedd hi’n troi ei llaw ato yn ysbrydoliaeth.
"Bydd colled aruthrol ar ei hôl."
Wrth siarad ar raglen Prynhawn Da ar S4C yn 2019, fe eglurodd Eirlys yr hyn â'i hysgogodd i fynd ati i ysgrifennu.
"O'n i 'di bod â diddordeb mawr mewn llenyddiaeth ar hyd fy oes ac yn hoff iawn o ddarllan, a rhyw syniad ddôth i mhen i ar ôl ymddeol, y byswn i yn cymryd amser i fy fu hun ac yn mynd ati i ysgrifennu," meddai.
"O'dd o reit hawdd sgwennu, achos o'dd cefndir y fferm gen i, ond dydy o ddim yn hunangofiannol o gwbwl."
Roedd Eirlys Wyn Jones yn credu y dylai unrhyw un afael yn yr hyn sydd yn eu diddori, be bynnag fo'u hoed.
"Rhwbath 'da chi isio neud, 'da chi beth rhy hen i neud dim byd. Os da chi'n mynd lawr yr un lôn - un lôn fach gul ar hyd eich hoes, 'da chi yn mynd i golli profiade - felly 'da chi yn troi oddi ar y lôn honno pan ddowch at groesffordd - trowch i ffwrdd a chwiliwch am brofiada' newydd."
Wedi iddi gyhoeddi 'Pwy Ti'n Feddwl Wyt Ti?' gyda gwasg Carreg Gwalch, cyhoeddodd ddwy nofel arall, 'Tu Ôl I'r Llenni' yn 2021 a 'Tua'r Gorwel' yn 2023.
Yn wraig i’r diweddar Griff Jones, mae Eirlys yn gadael ei mab Iolo, ei dwy ferch, Lynne a Non, yn ogystal â’i hwyrion ac wyresau.