Newyddion S4C

Cyhuddo'r llywodraeth o 'dro pedol' wrth i ysgolion ailagor yng Nghymru

02/09/2021
Ysgol

Mae miloedd o ddisgyblion ar draws y wlad yn dychwelyd i'r ysgol ddydd Iau, gyda nifer o'r mesurau i atal lledaeniad Covid-19 wedi'u llacio ers y tymor diwethaf.

Ni fydd disgwyl i ddisgyblion wisgo gorchudd wyneb yn yr ystafell ddosbarth bellach, er bod Llywodraeth Cymru yn cynghori eu gwisgo mewn ardaloedd lle mae'n debygol y bydd mwy o gymysgu.

Ond, wrth i ysgolion ailagor eu drysau, mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyhuddo o gyflawni “tro pedol aruthrol” dros y defnydd o beiriannau oson dadleuol mewn ysgolion.

Er mwyn ceisio gwella ansawdd aer mewn sefydliadau addysg, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Llun y byddai £3.31 miliwn yn cael ei ddarparu ar gyfer peiriannau diheintio oson, i “leihau amseroedd glanhau, gwella diheintio a lleihau costau”.

Ar y pryd, dywedodd y llywodraeth bod disgwyl i’r buddsoddiad ddarparu dros 1,800 o beiriannau newydd - o leiaf un ar gyfer pob ysgol, coleg a phrifysgol yng Nghymru.

Ond, bellach mae’r llywodraeth wedi dweud y bydd yn ail-edrych ar y dystiolaeth ar y defnydd o’r peiriannau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi ystyried y defnydd o beiriannau oson i weld a fedran nhw chwarae rôl wrth leihau amseroedd diheintio.

“Bydd ein Grŵp Cyngor Technegol nawr yn ystyried canlyniadau treialon cynnar y peiriannau hyn a darparu cyngor pellach ar eu defnydd o fewn lleoliadau addysg cyn i unrhyw broses gaffael ddechrau”.

‘Ddim yn gwneud synnwyr’

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r hyn maen nhw’n ei alwn’n “dro pedol”, gan ychwanegu fod rhywbeth ddim yn “gwneud synnwyr”.

Dywedodd llefarydd Iechyd a Gofal Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: “Dywedodd Llywodraeth Cymru ddydd Llun y bydden nhw’n darparu 1,800 o beiriannau diheintio oson i ysgolion, colegau a phrifysgolion ar draws Cymru am gost o £3m. 

“Mae hi nawr yn edrych fel petai eu bod wedi cyflawni tro pedol aruthrol yn dilyn pryderon difrifol gan weithwyr meddygol a gwyddonwyr ac nad ydynt hyd yn oed wedi dechrau ar y broses gaffael.  Nid yw popeth yn gwneud synnwyr”.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn croesawu'r "tro pedol" ond ei bod yn synnu nad oedd y llywodraeth wedi gofyn am gyngor gwyddonwyr cyn y cyhoeddiad.

Dywedodd Gweinidog Addysg Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Laura Anne Jones: "Roedd gwneud penderfyniad byrbwyll i gyflwyno'r peiriannau gwenwynig chwistrellu-cemegau hyn, a fedrai gael effaith niweidiol iawn ar iechyd ein pobl ifanc, heb siarad gydag arbenigwyr a dweud y gwir yn gam diofal.

"Mae angen i weinidogion gyhoeddi cyngor gan arbenigwyr, ynghyd ag unrhyw asesiadau risg sydd wedi eu cwblhau, i bawb i gael gweld cyn parhau a'r prosiect dadleuol hwn".

'Gwarchod plant yn flaenoriaeth'

Ddydd Llun, dywedodd y meddyg teulu Dr Eilir Hughes, sydd wedi bod yn ymgyrchu ar bwysigrwydd awyru i leihau’r risg o ledaenu Covid-19 ers blwyddyn, fod ganddo bryderon am y defnydd o beiriannau oson.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “O ran y diheintyddion oson, mae gen i lawer iawn o gonsyrn a dwi methu â deall i fod yn onasd sut mae'r penderfyniad yma wedi ei wneud.

“O be' dwi'n deall, mae 'na gyfiawnhad y byddai'r technoleg yma'n helpu i lanhau’r aer, ond dydy’r dechnoleg yma ddim wedi'i ddangos i wneud gwahaniaeth yn lefelau o feirws yn yr aer”.

Yn ogystal â’r peiriannau oson, daeth cyhoeddiad y byddai 30,000 o synwyryddion CO2 yn cael eu cyflwyno fel rhan o’r cynllun i gefnogi sefydliadau addysg wrth i ddisgyblion a myfyrwyr ddychwelyd wedi gwyliau'r haf.

Ychwanegodd y llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gwarchod plant a phobl ifanc rhag coronafeirws yn flaenoriaeth i ni. 

“Rydym wedi sicrhau bod cyllid sylweddol ar gael ar gyfer mesurau i fonitro awyru mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion a lleihau’r risgiau o ledaeniad Covid-19 drwy’r aer. 

“Mae’r buddsoddiad hwn yn cynnwys cyflwyno dros 30,000 o synwyryddion CO2 mewn ysgolion a lleoliadau addysg yng Nghymru”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.