Newyddion S4C

Hybu Cig Cymru'n penodi prif weithredwr newydd

José Peralta

Mae’r corff sy’n hybu cig coch o Gymru wedi penodi prif weithredwr newydd.

Fe fydd José Peralta yn cychwyn yn ei swydd newydd ar 20 Ionawr.

Dywedodd Hybu Cig Cymru ddydd Iau fod gan Mr Peralta “brofiad helaeth o weithio ar lefel Rheolwr Gyfarwyddwr yn niwydiant cig y DU ers dros 25 mlynedd”.

Mae ei swyddi blaenorol wedi cynnwys gweithio fel rheolwr gyfarwyddwr i fusnes cig coch mwyaf ond un y DU dan berchnogaeth Grampian Country Food Group, Vion, a 2 Sisters Food Group. 

Roedd Mr Peralta hefyd yn rheolwr gyfarwyddwr cwmni Tulip Food.  

Ei swydd ddiweddaraf oedd prif swyddog gweithredol i Puffin Produce yn Sir Benfro.

Daw’r penodiad yn dilyn cyfnod cythryblus i’r corff.

Cyfnod cythryblus

Mae Mr Peralta yn olynnu Gwyn Howells wnaeth roi’r gorau i’w swydd fis Mehefin y llynedd

Roedd ymchwiliad annibynnol i’w ymddygiad wedi dweud y byddai wedi cael ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol pe na bai wedi ymddiswyddo

Cwmni preifat yw Hybu Cig Cymru, ond Llywodraeth Cymru sy'n berchen arno ac yn ei oruchwylio. 

Datgelodd rhaglen Newyddion S4C ym mis Chwefror y llynedd bod chwe aelod o staff y corff wedi cwyno, ar wahân, eu bod nhw'n cael eu bwlio.

Fis Mehefin y llynedd, cafodd y corff ei labelu yn "siop siafins eilradd" gan gynrychiolwyr y diwydiant cig.

Ar raglen Y Byd ar Bedwar ym mis Tachwedd, fe ddywedodd staff fod cadeirydd y corff Catherine Smith ‘wedi dweud celwydd’ wrth ymateb i honiadau o ddiwylliant gwenwynig.

'Cyffrous'

Wrth ymateb i'r penodiad newydd, dywedodd cadeirydd HCC, Catherine Smith:“Dyma gyfnod cyffrous i ymuno â’r sefydliad, wrth i ni barhau i dyfu a chryfhau ein brandiau adnabyddus, Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI. 

"Wrth i ni ddod a’r gwaith o weithio ar ein cynllun busnes pum-mlynedd presennol i ben, a dechrau siapio ein gweledigaeth strategol ar gyfer 2026 a thu hwnt, rydym ni’n ymrwymo i greu rhaglen fapio a fydd yn cefnogi twf cynaliadwy'r diwydiant fel rhan hanfodol o economi bwyd-amaeth Cymru."

Dywedodd José Peralta:“Rwy’n edrych ymlaen at gychwyn ar y gwaith yn syth gyda thîm HCC i sicrhau bod y sefydliad yn sefyll gyda’i bartneriaid fel llais cryf i ddiwydiant cig coch Cymru, gan gefnogi ei ddatblygiad a’i hyrwyddo ar ran ein talwyr ardoll."

 

 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.