Ysbyty Gwynedd: Llai o lefydd parcio ar ôl sefydlu adran dros dro
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi y bydd llai o lefydd parcio ar gael ger adran mamolaeth Ysbyty Gwynedd er mwyn gwneud lle ar gyfer uned endosgopi dros dro.
O ddydd Sul, 18 Ionawr, fe fydd uned endosgopi dros dro yn cael ei sefydlu ym maes parcio'r adran famolaeth am gyfnod o “tua phum mis”.
“O ganlyniad, bydd gostyngiad dros dro yn nifer y lleoedd parcio sydd ar gael ym maes parcio'r adran famolaeth," medden nhw.
Mae diffyg llefydd parcio yn Ysbyty Gwynedd wedi creu problemau i rai ymwelwyr. Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod nhw yn y broses o asesu lle y gallen nhw ddarparu llefydd parcio mewn rhannau eraill o safle'r ysbyty hefyd.
Dywedodd y bwrdd eu bod yn annog pobl sy’n gallu teithio i’r ysbyty heb orfod parcio yno i ystyried gwneud hynny lle bod modd.
“Ymddiheurwn am unrhyw aflonyddwch ac anghyfleustra y gallai hyn ei achosi,” meddai’r datganiad.
“Hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd a'u dealltwriaeth tra bod y mesurau pwysig hyn yn cael eu rhoi ar waith i wella mynediad at ofal i'n cleifion.”
'Budd'
Fe ddaw’r cyhoeddiad am y newid fel rhan o ymdrechion i fynd i’r afael ag amserau aros hir ar gyfer triniaethau endosgopi diagnostig yn Ysbyty Gwynedd, meddai’r bwrdd.
Dywedodd y byddai’r newidiadau dros dro yn golygu y gallai dros 1,500 o bobl derbyn gofal meddygol yn yr uned endosgopi yn ystod y cyfnod yma.
Ychwanegodd y bwrdd ei fod yn “gam allweddol” wrth fynd i'r afael â rhestrau aros, gan helpu cleifion “sydd wedi bod yn aros yn hirach nag y bydden ni'n hoffi am ymchwiliadau pwysig".
Mewn datganiad, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: “Bydd yr uned dros dro yn cael ei lleoli ar safle Ysbyty Gwynedd oherwydd bod hyn yn caniatáu i ni ddarparu ystod ehangach o driniaethau endosgopi yn ddiogel.
“Byddai lleoli'r uned ar safle nad yw'n safle acíwt yn cyfyngu'n sylweddol ar yr ystod o driniaethau y gallwn eu cynnig ac yn lleihau'r budd i gleifion sy'n aros am ofal."