Byddai cyn brif weithredwr Hybu Cig Cymru 'wedi cael ei ddiswyddo pe na bai wedi ymddiswyddo'
Byddai cyn brif weithredwr Hybu Cig Cymru 'wedi cael ei ddiswyddo pe na bai wedi ymddiswyddo'
Mae ymchwiliad annibynnol i ymddygiad cyn brif weithredwr Hybu Cig Cymru wedi dweud y byddai wedi cael ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol pe na bai wedi ymddiswyddo.
Rhoddodd Gwyn Howells y gorau i'w swydd gyda'r corff sy'n hyrwyddo cig coch fis Mehefin, cyn i wrandawiad disgyblu gael ei gynnal.
Mewn datganiad ddydd Mawrth , dywedodd Hybu Cig Cymru:
"Mae bwrdd Hybu Cig Cymru wedi derbyn yn unfrydol arghymhellion proses ddisgyblu annibynnol, sydd wedi dod i'r casgliad y byddai'r cyn brif weithredwr Gwyn Howells wedi ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol pe na bai wedi ymddiswyddo.
"Fe ymddiswyddodd Mr Howells yn syth cyn gwrandawiad disgyblu, a oedd i'w gynnal wedi ymchwiliad trylwyr.
"Cafodd pob agwedd ei chynnal gan arbenigwyr, ac fe gafodd hynny ei gefnogi gan gyngor cyfreithiol.
"Penderfynodd y bwrdd fod difrifoldeb y sefyllfa yn golygu y byddai angen i swyddog disgyblaeth gyflwyno adroddiad terfynol er mwyn dod â'r broses i ben yn y modd cywir."
"Daeth yr adroddiad hwnnw i'r casgliad bod tystiolaeth ddigonol o gamymddwyn difrifol ar dri achos yn ymwneud â rheolaeth ac arweinyddiaeth Mr Howells.
"Mae'r bwrdd wedi derbyn holl argymhellion yr ymgynghorwyr Adnoddau Dynol a chyfreithiol gydol y broses.
"Mae Hybu Cig Cymru bellach yn ystyried fod y mater wedi cau.
"Rydym yn awyddus i ddiolch i staff Hybu Cig Cymru am eu hymrwymiad a'u proffesiynoldeb."
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Gwyn Howells i ofyn am sylw.
'Siop siafins'
Cwmni preifat yw Hybu Cig Cymru, ond Llywodraeth Cymru sy'n berchen arno ac yn ei oruchwylio. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb i'r datblygiadau diweddaraf.
Fis Mehefin, cafodd y corff ei labelu yn "siop siafins eilradd" gan gynrychiolwyr y diwydiant cig.
Yn ôl Cymdeithas Annibynnol Cyflenwyr Cig, roedd angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd i wneud yn siŵr bod Hybu Cig Cymru yn gwneud eu gwaith yn iawn.
Dywedodd Hybu Cig Cymru ar y pryd eu bod nhw'n "gweithio'n ddiflino i hyrwyddo'r diwydiant cig coch yng Nghymru, drwy'r Deyrnas Unedig ac ar draws y byd."
Datgelodd rhaglen Newyddion S4C ym mis Chwefror eleni bod chwe aelod o staff y corff wedi cwyno, ar wahân, eu bod nhw'n cael eu bwlio.
Fe ysgrifennodd Aelod Senedd Plaid Cymru dros ogledd Cymru, Llŷr Gruffydd, at y Gweinidog Materion Gwledig ar y pryd, Lesley Griffiths, i alw arni i ymyrryd, gan fynegi pryderon am "ddiwylliant" y corff.
Wrth ymateb, dywedodd y llywodraeth nad oed yn bosib iddyn nhw wneud sylw ar faterion staffio mewnol corff hyd braich.
Daeth i'r amlwg fis Mehefin i ddau o gyfarwyddwyr Hybu Cig Cymru ymddiswyddo. Does dim awgrym eu bod nhw'n ymwneud â'r honiadau o fwlio.
Fis Mehefin hefyd, fe gadarnhaodd Hybu Cig Cymru bod y Prif Weithredwr, Gwyn Howells, wedi ymddiswyddo ar ôl bod i ffwrdd o'i waith ers haf y llynedd. Does dim awgrym ei fod e, chwaith, yn ymwneud â'r honiadau fwlio.