Newyddion S4C

Galw am ymchwiliad i Hybu Cig Cymru wedi honiadau o fwlio

Newyddion S4C 08/02/2024

Galw am ymchwiliad i Hybu Cig Cymru wedi honiadau o fwlio

Mae Aelod o'r Senedd wedi galw ar y llywodraeth a phwyllgor seneddol i ymchwilio i Hybu Cig Cymru wedi honiadau o fwlio. 

Mae Llyr Gruffydd yn poeni am "honiadau o fwlio a'r modd y mae'r cadeirydd a rhai aelodau o'r bwrdd wedi delio â'r rhain."

Cwmni preifat yw Hybu Cig Cymru, ond Llywodraeth Cymru sy'n berchen arno ac yn ei oruchwylio.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau ynghylch materion staffio o fewn cyrff hyd braich. Bydd y Gweinidog yn ymateb i’r ohebiaeth maes o law.”

Nôd Hybu Cig Cymru yw hyrwyddo cynnyrch cig oen, cig eidion a phorc Cymreig.

Yn ôl ei adroddiad blynyddol diweddaraf, roedd yn cyflogi 35 o weithwyr yn 2021.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud fod y corff wedi derbyn incwm o ryw £3.5m drwy dreth sydd wedi'i osod ar ffermwyr sydd yn gwerthu cig coch, a £2m yn ychwanegol drwy grantiau llywodraeth.

Mewn llythyr at Weinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths AS, mae aelod Plaid Cymru dros y gogledd, Llyr Gruffydd AS yn dweud ei fod yn "anfodlon" gyda chyfathrebu preifat blaenorol rhyngddo fe a'r gweinidog ynglyn â honiadau diweddar am Hybu Cig Cymru.

Mae'n galw ar Ms Griffiths i "ymyrryd yn uniongyrchol" ac yn dweud y bydd hefyd yn ysgrifennu at bwyllgor y Senedd ar yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, er mwyn "canfod y ffeithiau a rhoi sicrwydd o ran arweinyddiaeth a llywodraethiant y corff, ei brosesau mewnol a'i allu i weithredu."

Dywed Mr Gruffydd bod yn rhaid ymyrryd er mwyn amddiffyn rheiny sydd yn ymwneud â'r honiadau o fwlio ac er mwyn osgoi niwed i sector cig coch Cymru.

Dyma'r sefydliad cenedlaethol diweddaraf i wynebu cwestiynau am ei lywodraethiant a'i ddiwylliant, wedi sgandalau amlwg diweddar o fewn i Undeb Rygbi Cymru, S4C a gwasanaeth tân De Cymru.

Mae Newyddion S4C yn deall i 6 aelod o staff Hybu Cig Cymru gwyno ar wahân am fwlio gan reolwr o fewn y corff. Cafodd ymchwiliad allanol ei gomisiynu, gan gynnal nifer o gwynion yn erbyn y rheolwr hwnnw.

Er i Hybu Cig Cymru ddweud y bydden nhw yn "gweithredu", mae BBC Cymru yn deall nad yw manylion y gweithredu yna wedi ei rannu gyda staff, ac mae rhai yn teimlo nad yw'r sefydliad wedi delio gyda'r cwynion yn briodol.

Dywedodd Phil Stocker, Prif Weithredwr y Gymdeithas Ddefaid Cenedlaethol (NSA): "Dwi'n clywed pob math o straeon ac honiadau yn dod o Hybu Cig Cymru, ac rwy'n poeni am sut mae'r trethi mae ffermwyr yn talu yn cael eui defnyddio, ac a ydy hynny'n golygu bod Hybu Cig Cymru yn tynnu sylw oddi ar yr hyn sy'n bwysig."

Mewn datganiad, dywedodd Hybu Cig Cymru "mae'n rhaid i ni eich cynghori na fyddai hi'n iawn i unrhyw faterion HR gael eu trafod yn gyhoeddus ar sail ffynonellau anhysbus. Byddai cyhoeddi'r math yna o wybodaeth yn peryglu enw da Hybu Cig Cymru."

"Dydyn ni ddim yn gwneud sylw ar faterion staffio mewnol ac felly ni fyddwn ni'n rhannu rhagor o wybodaeth gyda chi."

Ar wahân i'r cwynion bwlio, mae Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru, Gwyn Howells, i ffwrdd o'i waith ers haf y llynedd. Does dim awgrym ei fod e yn gysylltiedig â'r cwynion o fwlio.

 Cadarnhaodd Hybu Cig Cymru "na fydd e'n ymgymryd â'i ddyletswyddau am gyfnod o amser" a'i fod "ar gyfnod o absenoldeb oherwydd salwch".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.