Trump i osod tariffau o 10% ar y DU tan iddo gael cytundeb i brynu’r Ynys Las
Trump i osod tariffau o 10% ar y DU tan iddo gael cytundeb i brynu’r Ynys Las
Mae Arlywydd yr UDA Donald Trump wedi cyhoeddi cynlluniau i osod tariffau o 10% ar nwyddau o’r DU a saith gwlad arall yn Ewrop hyd nes y bydd cytundeb i America brynu’r Ynys Las.
Mewn cyhoeddiad ar ei gyfryngau cymdeithasol Truth Social dywedodd Mr Trump fe fydd tariffau o 10% ar y “cyfan neu unrhyw nwyddau” fydd yn cael eu hallforio i’r UDA o 1 Chwefror.
Dywedodd Mr Trump fe fydd y tariffau mewn grym tan “yr adeg y cyrhaeddir bargen ar gyfer prynu’r Ynys Las yn llawn ac yn chyflawn".
Yn gynharach yn yr wythnos, cyhoeddodd y DU ei bod wedi anfon swyddog milwrol i’r Ynys Las wrth i Ddenmarc gynyddu ei phresenoldeb milwrol yn yr Arctig a’r Gogledd Uchel.
Dywedodd Mr Trump fod gwledydd Ewropeaidd, gan gynnwys y DU, Denmarc, Norwy, Sweden, Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd, a'r Ffindir, wedi "teithio i'r Ynys Las, at ddibenion anhysbys".
Ychwanegodd: "Mae'r Gwledydd hyn, sy'n chwarae'r gêm beryglus iawn hon, wedi rhoi lefel o risg ar waith nad yw'n gynaliadwy.
"Felly, mae'n hanfodol, er mwyn amddiffyn heddwch a diogelwch byd-eang, bod mesurau cryf yn cael eu cymryd fel bod y sefyllfa beryglus bosibl hon yn dod i ben yn gyflym, a heb gwestiwn.”