Nifer o bobol wedi eu harestio mewn protest tu allan i Lysgenhadaeth Iran yn Llundain

Llysgenhadaeth Iran

Mae nifer o bobl wedi cael eu harestio yn ystod protest y tu allan i Lysgenhadaeth Iran yn Llundain, yn ôl Heddlu’r Met.

Dywedodd y llu fod swyddogion ychwanegol wedi cael eu defnyddio a bod gorchymyn wedi'i roi ar waith i helpu i wasgaru torf.

Roedd un o'r rhai a arestiwyd wedi dringo'r adeilad yn Kensington a thynnu baner Iran, meddai’r llu.

Dywedodd y Met: “Yn ystod y brotest yn Llysgenhadaeth Iran heno, aeth protestiwr i mewn i eiddo preifat yn anghyfreithlon a dringo ar draws nifer o falconïau i do'r Llysgenhadaeth a thynnu baner.

“Ers hynny mae wedi cael ei arestio gan swyddogion ar amheuaeth o ddifrod troseddol, tresmasu ar eiddo diplomyddol ac ymosod ar yr heddlu. 

"Mae gorchymyn adran 35 wedi'i osod o ganlyniad i anhrefn parhaus, gan gynnwys taflegrau yn cael eu taflu at swyddogion. Mae sawl swyddog wedi dioddef anafiadau.”

Fe ychwanegodd y Met yn hwyrach: “Mae nifer o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o anhrefn treisgar.

“Mae presenoldeb heddlu sylweddol yn parhau i fod ar waith, gan gynnwys swyddogion ychwanegol sydd wedi cael eu defnyddio yn ystod y nos i atal anhrefn pellach.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.