Llanelli: Gorchymyn gwasgaru yn dilyn ymddygiad gwrthgymdeithasol

Siopau Trostre

Mae gorchymyn gwasgaru mewn grym yn ardaloedd siopau Trostre a Phemberton yn Llanelli yn dilyn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y gorchymyn mewn grym r hwng 12:00 ddydd Sadwrn a 00:00 nos Sul/bore dydd Llun.

Ychwanegodd y llu fod hyn mewn ymateb i “gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal dros yr wythnos ddiwethaf”.

Mae hyn yn golygu y bydd gan swyddogion yn Llanelli bwerau ychwanegol i ddelio ag unrhyw un sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn.

“O dan yr hysbysiad gwasgaru, bydd swyddogion yn gallu cyfarwyddo unrhyw un sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi aflonyddu, braw neu ofid i adael yr ardal," meddai'r heddlu.

"Bydd ganddynt hefyd y pŵer i atafaelu unrhyw eiddo y mae swyddogion yn amau ​​​​ei fod yn cael ei ddefnyddio i achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

"Mae'r rhai sy'n gwrthod cydymffurfio â'r gorchymyn yn cyflawni trosedd ac yn agored i gael eu harestio."

Mae'r gorchymyn gwasgaru yn effeithio ar yr ardaloedd hyn:

Parc Manwerthu Trostre

Siop TescoMcDonalds

Parc Pemberton

Siop Morrisons

Llun: Facebook/Trostre Retail Park

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.